'AI ddim am gymryd lle cyfieithwyr Cymru'
Fydd AI ddim yn disodli cyfieithwyr Cymru oherwydd bod angen dealltwriaeth o gyd-destun diwylliannol ac ieithyddol wrth gyfieithu.
Dyna farn cadeirydd Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru ar drothwy cynhadledd yn Aberystwyth i drafod deallusrwydd artiffisial.
Mae’r gynhadledd, sy’n cael ei threfnu gan y gymdeithas, yn edrych ar y cyfleoedd a’r heriau mae datblygiad y dechnoleg yn ei gynnig yn y maes cyfieithu.
Dywedodd cadeirydd y gymdeithas, Manon Cadwaladr mai “deallusrwydd artiffisial yw’r “pwnc trafod mawr ymysg cyfieithwyr y dyddiau hyn”.
Ond rhybuddiodd wrth siarad â Newyddion S4C bod angen “rheoli disgwyliadau pobl o’r hyn y mae deallusrwydd artiffisial yn gallu ei gyflawni”.
“Mae angen pwysleisio nad ydi deallusrwydd artiffisial yn gallu gwneud gwaith cyfieithwyr,” meddai.
“Dydi o ddim yn mynd â thi yn syth at rywbeth darllenadwy y gall y cyhoedd ei ddefnyddio.”
Dylai cyfieithwyr ddefnyddio AI fel rhan o'u proses gwaith ac mae'r Gymraeg ar y blaen i nifer o ieithoedd eraill yn gwneud defnydd o'r dechnoleg, meddai.
Ond mae cyfieithwyr yn “bobl greadigol” ac mae rhan o’r broses yn cael ei golli wrth ddibynnu ar AI ar ei ben ei hun, meddai Manon Cadwaladr.
Nid yw AI bob tro yn deall y cyd-destun na chwaith yn gwybod sut na phryd i ddefnyddio Cymraeg llai ffurfiol, ychwanegodd.
Roedd hynny oherwydd ei fod fel arfer yn cael ei hyfforddi ar fodelau iaith mawr a chyffredinol oedd yn eu gwneud yn llai effeithiol wrth ddeall y cyd-destun penodol neu wybod pryd i ddefnyddio cyweiriau anffurfiol.
“Mae angen cydnabod bod deallusrwydd artiffisial yn gallu delio efo pob math o destunau ond dim ond person all bigo fyny ar y cyd-destun,” meddai.
‘Ffynnu’
Dywedodd y trefnwyr y bydd yr amrywiol siaradwyr hefyd yn trafod yr oblygiadau cyfreithiol, yr effaith ar gwmnïau cyfieithu, yr effaith ar addysgu a hyfforddi cyfieithwyr y dyfodol gan hefyd edrych ymlaen at yr heriau technolegol sydd eto i ddod.
Un effaith posib o AI yw sut y bydd sefydliadau a chwmnïau sydd dan ddyletswydd oherwydd Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 i ddarparu gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg, yn defnyddio meddalwedd i gyflawni’r dyletswyddau hynny.
Yn ôl Efa Gruffudd Jones, Comisiynydd y Gymraeg, mae’r drafodaeth yn un bwysig,
“Er mwyn i’r Gymraeg ffynnu yn y dyfodol, mae angen iddi fod yn berthnasol i’n bywydau bob dydd. Mae deallusrwydd artiffisial â’r potensial i hwyluso hynny,” meddai.
“Yn y gynhadledd hon byddaf yn codi cwr y llen ar ein bwriadau yn y maes hwn gan gynnwys cyhoeddi polisi rheoleiddio i fynd i’r afael â’r defnydd o Ddeallusrwydd Artiffisial yn ddiweddarach yn y flwyddyn."
Mae siaradwyr eraill y gynhadledd yn cynnwys Hanna Thomas, arbenigwraig ar dechnoleg a deallusrwydd artiffisial, Ben Screen, Arweinydd y Gymraeg, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ac awdur “Sylfeini Cyfieithu Testun”, a Rhys Jones, cyfarwyddwr ar gwmni Wavebox (porwr gwe sy’n defnyddio AI) ac AxonZeta (datblygwyr Asiantau AI).
Cynhelir y gynhadledd yn adeilad Medrus, Prifysgol Aberystwyth rhwng 10:00 a 15:30 dydd Llun 23 Mehefin 2025.