Newyddion S4C

Sophie Evans: ‘Rhaid rhoi croeso i rieni fel fi os yw’r Gymraeg am ffynnu’

Y Byd ar Bedwar

Sophie Evans: ‘Rhaid rhoi croeso i rieni fel fi os yw’r Gymraeg am ffynnu’

Mae’r gantores West End Sophie Evans wedi siarad am ei theimladau cymysg ynglŷn â pha mor gynhwysol yw’r Gymraeg, yn dilyn sylwadau beirniadol gan rai siaradwyr arlein. 

Mewn cyfweliad gyda Siôn Jenkins ar gyfer rhaglen Y Byd ar Bedwar, dywedodd Sophie fod codi’r cwestiwn o anfon ei mab i ysgol Gymraeg neu beidio wedi gwneud iddi deimlo nad yw hi’n perthyn i’w diwylliant ei hun.

"Mae’n rhywbeth ‘dw’i wedi bod yn meddwl amdano ers iddo gael ei eni," meddai. "Yn y dechrau, ro’n i’n meddwl y byddai’n neis iddo allu siarad Cymraeg, ond wrth i mi feddwl mwy a mwy, ‘dwi'n teimlo'n fwy dryslyd."

Yn chwilio am gyngor, fe benderfynodd Sophie rannu ei phenbleth ar ei chyfrif TikTok. 

"Roedd y rhan fwyaf yn bositif," meddai, "ond roedd ambell un yn dweud, 'Wel, mae'n rhaid i chi anfon eich plentyn i ysgol Gymraeg neu fydd e ddim yn Gymro.’ A dyna lle dechreuais i deimlo'n rhwystredig.”

Dywedodd hi fod hyn yn creu teimlad o elitiaeth, sy’n achosi tensiwn rhwng siaradwyr Saesneg a siaradwyr Cymraeg.

“Yn fy mhen i, roedd hynny’n gwneud i mi gamu yn ôl o’r gymuned Gymraeg," meddai.

Er ei bod hi’n teimlo’n falch o’i Chymreictod, ac wedi mynegi ei dymuniad i ddysgu’r iaith ei hun, mae Sophie yn poeni am y neges mae rhai agweddau’n ei hanfon at bobl fel hi - pobl sydd heb gael y cyfle i dyfu i fyny’n siarad Cymraeg, ond sy’n awyddus i ddysgu.

"Os ydych chi wir eisiau i’r iaith Gymraeg a diwylliant Cymreig dyfu, on’d y ffordd ymlaen yw denu pobl nad ydyn nhw’n siarad Cymraeg, mewn ffordd sydd yn gynhwysol ac yn garedig?"

Image
Mae nifer y siaradwyr Cymraeg ar ei isaf ers wyth mlynedd, ond mae Mark Drakeford am i’r iaith berthyn i bawb. (Llun: ITV Cymru Wales)
Mae nifer y siaradwyr Cymraeg ar ei isaf ers wyth mlynedd, ond mae Mark Drakeford am i’r iaith berthyn i bawb. (Llun: ITV Cymru Wales)

Mewn cyfweliad ar raglen Y Byd ar Bedwar, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros y Gymraeg, Mark Drakeford, ei fod yn deall bod yr iaith yn teimlo’n estron i rai a'i fod ef, fel dysgwr, wedi derbyn sylwadau beirniadol gan rai am safon ei iaith.

"‘Dwi’n cael llythyron eitha’ cas o bobol yn dweud, ‘Chi wedi ‘neud camgymeriad…’, ond dim ond nifer bach, bach o bobol sy’n cwyno fel ‘na," meddai.

Gyda tharged Llywodraeth Cymru i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yn y fantol, dywedodd ei fod yn gweld agweddau o elitiaeth Cymraeg fel her i’w goresgyn. 

"Os mae pobol yn teimlo fel ‘na, mae hwnna yn erbyn popeth ni eisiau ‘neud fel llywodraeth," meddai.

“Ni’n siarad am agweddau, yn dydyn ni?" ychwanegodd.

"Mae rhai pethau mae’r Llywodraeth yn gallu ‘neud, ond dydyn ni ddim yn gallu ‘neud popeth."

Er bod Sophie Evans yn cydnabod mai dim ond rhai unigolion sydd wedi gwneud iddi deimlo’n anghyfforddus, mae hi’n pwysleisio bod y ffordd mae’r Gymraeg yn cael ei thrafod mor bwysig â’r iaith ei hun.

Gwyliwch y drafodaeth ar Y Byd ar Bedwar, nos Lun am 20:00 ar S4C, S4C Clic a BBC iPlayer. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.