Newyddion S4C

‘Anthem swyddogol’ i ysbrydoli menywod Cymru yn Euro 2025

Rhian Wilkinson

Mae “anthem swyddogol” wedi ei chyhoeddi er mwyn ysbrydoli chwaraewyr a chefnogwyr tîm pêl-droed Cymru ym Mhencampwriaethau Euro 2025 UEFA yn y Swistir fis nesaf.

Teitl y gân yw ‘Never Gonna Break Her’, sydd wedi ei hysgrifennu gan y gantores a’r cyfansoddwraig Amy Wadge.

Fe fydd y gân yn cael ei pherfformio gan y gantores Liss Jones o Ferthyr Tudful.

Dywedodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru fod y gân yn “tynnu ysbrydoliaeth o bwrpas tîm cenedlaethol menywod Cymru: Chwarae dros newid. Chwarae i ysbrydoli. Amdanom Ni, Amdanyn Nhw, Amdani Hi”.

“Mae’r slogan ‘Amdanom Ni, Amdanyn Nhw, Amdani Hi.’ yn cydnabod y gorffennol, yn arddangos y presennol ac yn ysbrydoli’r dyfodol. 

“Mae geiriau Amy Wadge yn crynhoi hyn yn berffaith mewn cân pop anthemig sy’n cael ei chyflwyno’n bwerus gan Liss Jones. Fydd y cân ar gael ar bob prif blatfform ffrydio o ddydd Mercher, 25 Mehefin."

Mae tîm Rhian Wilkinson wedi cyrraedd pencampwriaeth ryngwladol am y tro cyntaf erioed.

Ysbryd

Mae Amy Wadge yn adnabyddus am gydweithio gydag Ed Sheeran ar y gân ‘Thinking Out Loud’, a enillodd y Wobr Grammy am Gân y Flwyddyn yn 2016. 

Mae hi hefyd wedi ysgrifennu caneuon i artistiaid fel Alicia Keys, Camila Cabello, Kylie Minogue, Pink, John Legend, James Blunt, Kacey Musgraves, Sam Ryder a Tom Grennan. Cyd-ysgrifennodd hefyd y gerddoriaeth i’r ddrama ‘Un Bore Mercher’ ar S4C a’r BBC, a enillodd wobr BAFTA Cymru.

Dywedodd Amy Wadge: “Fe wnes i ysgrifennu Never Gonna Break Her o’r galon. 

"Mae’n ymwneud ag ysbryd di-dor ein chwaraewyr, ond hefyd â phob menyw sydd erioed wedi gorfod ymladd i gael ei gweld, ei chlywed neu ei pharchu. Mae’r ffaith mai hon yw trac sain ymddangosiad cyntaf Cymru mewn twrnamaint rhyngwladol mawr yn golygu cymaint i mi.”

Dywedodd Liss Jones: “Fel merch ifanc yn tyfu lan yng Nghymru, roeddwn i wastad yn dilyn fy mreuddwydion – yn union fel y chwaraewyr anhygoel hyn. Mae’r gân hon ar eu cyfer nhw, ond hefyd ar gyfer pob menyw a gafodd ei dweud nad oedd hi’n gallu.”

Bydd Cymru’n cychwyn eu hymgyrch EURO 2025 yn erbyn yr Iseldiroedd yn Lucerne ar ddydd Sadwrn, 5 Gorffennaf, cyn wynebu Ffrainc yn St Gallen ar ddydd Mercher, 9 Gorffennaf. 

Fe fydd tîm Rhian Wilkinson yn dychwelyd i St Gallen i gwblhau eu gemau yn y grŵp yn erbyn Lloegr ddydd Sul, 13 Gorffennaf.

 

Llun: CBDC

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.