
Agoriad llygad i filfeddyg yng Ngwynedd
Agoriad llygad i filfeddyg yng Ngwynedd
Mae milfeddyg o Bwllheli wedi cael tipyn o agoriad llygad yn ei gwaith yr wythnos hon.
Wrth wneud profion rheolaidd diciâu ar wartheg ar fferm yng Ngwynedd, fe welodd Dr Malan Hughes fod gan un llo bach rywbeth gwahanol ar ganol ei wyneb – llygad ychwanegol.
“Jysd ‘di digwydd ffindio fo oeddwn i,” meddai Dr Hughes, sydd wedi gweithio fel milfeddyg ers pum mlynedd.
“Mae o’n ddigon od. Oedd y ffarmwr yn meddwl mai riw ‘abscess’ oedd o. Nath o ddeud ‘o, ma’ hwn di byrstio’, wrth weld bod ‘na ‘chydig bach o agoriad iddo fo, a gan bod o ‘chydig bach yn wlyb lly. Ond na, nes i ddeud bod hwna’n edrych fatha llygad.”
Dyma’r tro cyntaf i Dr Hughes, sy’n filfeddyg ym mhractis Milfeddygon Deufor yn y Ffôr ger Pwllheli, weld rhywbeth tebyg.

“’Da ni’n gweld lot o fatha deformities lly, petha sy’n digwydd fatha nam wrth iddyn nhw ddatblygu yn y groth, ond odd hwnna’r cynta o ran rhywbeth tebyg i lygad. ‘Da ni’n gweld bob matha’ o bethau – dau ben, neu coesau ychwanegol a petha felly. Ond dwi rioed ‘di gweld rwbaeth efo fatha llygad fela o blaen lly de.”
“Mae ‘na eiliau iawn, amrannau, a ma’ gen ti fatha’r 'eyelids' yna hefyd lly… de ni ddim yn mynd i neud dim am y peth, dyde ni ddim yn mynd i dynnu fo na’m byd felly chwaith.”
Nid yw Dr Hughes yn meddwl fod y llo, sydd ychydig fisoedd oed, yn gallu gweld drwy’r llygad.

“Ma’ hi’n hollol iawn, odd hi’n sugno mys i aballu. Ella bod hi’n gallach na run llo arall, dwi’m yn gwbo. Ond na, mae o’n hollol iawn. Dim byd yn bod arni o gwbl, y corff fel arall wedi ffurfio yn hollol berffaith. O be dwi’n feddwl, dydi hi ddim yn gallu gweld drwyddi.”
Mae’r math yma o ddarganfyddiad yn anghyffredin iawn, meddai Dr Hughes. Ond, ar ôl chwilio a y we, gwelodd Dr Hughes bod llo gyda tri llygad wedi ei eni yn India.

“Nes i chwilio ar y we neithiwr, ac oedd ‘na lo yn India oedd yn cael ei addoli. Ond oni’n trio cael close up i weld sut oedd y llygad hwnnw’n edrych, ond doedd ‘na’m llun da iawn o gwbl.
“Fatha, de ni’n cal lot o bethau sydd efo ella llygad bach, neu lygad heb ffurfio yn iawn, ond dwi rioed di cal rhywbeth efo tri llygad fel yma lly de.”