Dau ddisgybl yn yr ysbyty wedi achosion o'r dwymyn goch mewn ysgol yn Sir Gâr
07/12/2022
Mae dau ddisgybl ysgol gynradd wedi gorfod derbyn triniaeth yn yr ysbyty ar ôl achos o'r dwymyn goch yn Sir Gaerfyrddin.
Roedd y ddau ymysg 24 disgybl yn Ysgol Gynradd Brynaman sydd wedi eu heintio.
Bu'n rhaid cludo un o'r ddau ddisgybl i Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd.
Dywedodd y Cynghorydd Glynog Davies fod pump o ysgolion yn Sir Gaerfyrddin wedi cofnodi achosion o'r dwymyn goch a bod yr awdurdod yn gweithio'n agos iawn gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru ar hyn o bryd.
Darllenwch ragor yma.