Newyddion S4C

Dyn 55 oed wedi marw mewn gwrthdrawiad yn Sir Gâr

18/11/2024
a48.png

Mae dyn wedi marw mewn gwrthdrawiad ffordd yn Sir Gâr nos Wener.

Dywedodd Heddlu Dyfed Powys fod car Isuzu llwyd yn rhan o'r gwrthdrawiad ar yr A48 tua'r dwyrain rhwng Cross Hands a Chwmgwili am tua 17:05. 

Bu farw dyn 55 oed yn y fan a'r lle, ac mae ei deulu yn cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol.

Fe gafodd y ffyrdd tua'r dwyrain a'r gorllewin eu cau tra bod y gwasanaethau brys yn bresennol.

Fe gafodd y ffordd tua'r gorllewin ac un lôn o'r ffordd tua'r dwyrain eu hail-agor am hanner nos, gyda'r ffordd tua'r dwyrain yn ail-agor yn llawn am 12:30 ddydd Sadwrn.

Mae'r heddlu yn annog unrhyw un â gwybodaeth i gysylltu â nhw gan ddefnyddio'r cyfeirnod 24*970191.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.