Newyddion S4C

Y gwasanaethau brys yn ymateb i 'ddigwyddiad meddygol' yn Nantlle, Gwynedd

Y gwasanaethau brys yn ymateb i 'ddigwyddiad meddygol' yn Nantlle, Gwynedd

Roedd ymateb sylweddol gan y gwasanaethau brys i 'ddigwyddiad meddygol' ym mhentref Nantlle yn Nyffryn Nantlle, Gwynedd, brynhawn dydd Sul.

Roedd y ffordd ger Tai Victoria ar gau am gyfnod ac mae swyddogion yr heddlu'n cynnal ymchwiliad yn un o'r tai yno ar hyn o bryd.

Fe gafodd y ffordd ei hail-agor yn ddiweddarach ac mae nifer o swyddogion Heddlu Gogledd Cymru yn bresennol.

Cafodd y Gwasanaeth Ambiwlans ei alw hefyd i'r digwyddiad.

Mewn datganiad, dywedodd yr heddlu eu bod wedi ymateb i 'ddigwyddiad meddygol' ac nad oeddynt am wneud sylw pellach ar hyn o bryd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.