Newyddion S4C

Llandysul: Cyhuddo tri ar ôl canfod dros 700 o blanhigion canabis mewn hen ysgol

18/11/2024
Ysgol Gynradd Llandysul

Mae tri dyn wedi eu cyhuddo o gynhyrchu canabis ar ôl i dros 700 o blanhigion gael eu darganfod y tu mewn i hen ysgol gynradd yng Ngheredigion. 

Fe ddaeth swyddogion Heddlu Dyfed-Powys o hyd i 737 o’r planhigion yn adeilad yr hen ysgol gynradd ar Heol Llyn y Fran, Llandysul, ddydd Gwener wedi iddyn nhw gael gwarant i archwilio’r adeilad. 

Mae Armeld Troski, 29, Njazi Gjana, 27, a Ervin Gjana, 24, bellach wedi eu cyhuddo o gynhyrchu cyffur dosbarth B. 

Mae disgwyl iddyn nhw ymddangos yn Llys Ynadon Hwlffordd. 

Mae swyddogion yr heddlu yn parhau yn yr ardal er mwyn cael gwared â’r cyffuriau o’r adeilad.

Mewn datganiad dywedodd y llu eu bod wedi ymrwymo i fynd i’r afael â chyffuriau yn yr ardal. 

Maen nhw’n annog unigolion i gysylltu â’r heddlu pe bai unrhyw un yn amau fod troseddau yn gysylltiedig â chyffuriau yn eu hardal. 

“Fe allai unrhyw wybodaeth, dim ots pa mor fach mae’n ymddangos, wneud gwahaniaeth enfawr,” meddai’r llu.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.