Newyddion S4C

Merch wedi marw ar ôl 'argyfwng meddygol' mewn clwb rygbi yn Rhydaman

18/11/2024
amman united RFC.png

Mae merch yn ei harddegau wedi marw ar ôl 'argyfwng meddygol' mewn clwb rygbi yn ardal Rhydaman, Sir Gaerfyrddin nos Wener. 

Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys fod y ferch wedi cael ei chludo i'r ysbyty gan nad oedd yn teimlo yn dda, ond bu farw yn oriau mân fore Sadwrn.

Ychwanegodd y llu bod eu meddyliau gyda'r teulu yn ystod y cyfnod anodd hwn. 

Mae'r farwolaeth yn cael ei thrin fel un heb esboniad ar hyn o bryd ac fe fydd adroddiad yn cael ei baratoi i'r crwner yn ôl yr heddlu.

Dywedodd Clwb Rygbi Yr Aman mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol ddydd Sadwrn fod y clwb ar gau a'r holl gemau wedi eu gohirio "yn sgil amgylchiadau nad oedd modd eu rhagweld ac fel arwydd o barch".

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.