Achos cyfreithiol Donald Trump yn erbyn y BBC i fynd i'r llys yn 2027
Fe fydd achos cyfreithiol Arlywydd yr Unol Daleithiau Donald Trump yn erbyn y BBC yn mynd i'r llys ym mis Chwefror 2027 yn ôl dogfennau llys.
Mae Mr Trump wedi cyflwyno achos cyfreithiol werth $10bn yn erbyn y BBC mewn cysylltiad â’r modd y cafodd araith ganddo ei golygu ar raglen Panorama.
Mae Arlywydd yr Unol Daleithiau yn dweud bod ei enw wedi cael ei ddifenwi.
Fe wnaeth y BBC ymddiheuro i’r Arlywydd am y modd y cafodd y rhaglen ei golygu, ond fe wrthododd y gorfforaeth ei alwadau am iawndal.
Mae tîm cyfreithiol Trump wedi cyhuddo’r BBC o “ffugio ei araith yn fwriadol, mewn modd maleisus a thwyllodrus”.
Mae disgwyl i'r achos llys bara pythefnos ym Miami o 15 Chwefror y flwyddyn nesaf.
Mae'r BBC wedi cymryd camau cyfreithiol i gael gwared ar yr achos cyfreithiol.
Mae’r BBC yn honni nad oes gan y llys yn Florida “awdurdodaeth bersonol” dros y gorfforaeth, bod lleoliad y llys yn “amhriodol” a bod Mr Trump wedi “methu â datgan hawliad”, yn ôl dogfennau’r llys.
Mae'r gorfforaeth hefyd yn dadlau na wnaeth greu, gynhyrchu na darlledu y rhaglen ddogfen yn Florida ac nad yw honiad Mr Trump fod y rhaglen ar gael yn UDA yn wir.
Dywedodd llefarydd ar ran y BBC: "Fel yr ydym wedi’i egluro o’r blaen, byddwn yn amddiffyn yr achos hwn.
“Nid ydym am wneud sylwadau pellach ar achosion cyfreithiol byw.”