O alar i arwain ei wlad: Seren rygbi'n disgleirio wedi cyfnod heriol
Yn un o sêr ifanc rygbi yng Nghymru, Deian Gwynne ydy cyd-gapten tîm dan-20 Cymru, gyda'i berfformiad yng ngêm agoriadol y Chwe Gwlad yn erbyn Lloegr dan-20 yr wythnos ddiwethaf yn un o'r uchafbwyntiau.
Ond oddi ar y cae, mae Deian wedi wynebu heriau personol sylweddol wedi iddo golli ei dad, Dewi, ym mis Mai 2024 ar ôl cyfnod o salwch.
Mewn cyfweliad gyda Chwaraeon S4C, dywedodd Deian: "Jyst yn arfer gweld e ar yr ochr, o'dd e'n gyrru fi mlaen isie neud e'n prowd, a faint o'dd e'n meddwl iddo fe, yn rhoi gwên ar ei wyneb, hwnna sy'n gyrru fi 'mlaen pob dydd, jyst trial neud e'n prowd a gwella pob dydd."
Ychwanegodd Nicol Gwynne, mam Deian: "O'dd Dewi yn hapus, siarad i pawb, 'na pam fi'n credu o'dd e'n mwynhau rygbi, o'dd e'n mynd lawr i'r clwb ag o'dd dim lot o amser 'da fi i watchad y rygbi, o'dd e'n siarad i pawb.
"O'dd e'n prowd iawn o fod yn dad i Deian."
Emlyn Jones yw Cadeirydd Clwb Rygbi Aberystwyth. Dywedodd wrth Chwaraeon S4C: "O'dd Dewi yn un o arwyr y clwb 'ma, cyn-gapten, cyn-chwaraewr y flwyddyn, person caled iawn ar y cae.
"Fuodd Dewi yn sâl am sawl blwyddyn, ond roedd yn berson cryf, person gonest iawn, mi ddaliodd e ati i fyw ei fywyd a fi'n cofio o'dd e'n braf o beth dwy flynedd yn ôl lawr yn gwylio Deian yn 'ware yn erbyn Yr Alban."
Roedd Dewi Gwynne yn gapten Clwb Rygbi Aberystwyth am ddwy flynedd rhwng 1993 a 1995 yn ogystal ag am flwyddyn arall rhwng 1997 ac 1998.
Roedd ewythr Deian, sef brawd Dewi, Eifion Gwynne yn gapten ar y clwb rhwng 2001 a 2002 hefyd.
Bu farw Eifion Gwynne yn Sbaen yn 2016 wedi iddo gael ei daro gan gar. Roedd wedi teithio i Malaga i fynd i angladd.
Ychwanegodd Emlyn: "Colli Eifion druan ei frawd, a wedyn clywed bod Dewi yn sâl, o'dd e'n amser caled achos oedd y ddou ohonyn nhw yn gyn-gapteiniaid, chwaraewyr y flwyddyn ac arwyr mawr yn y clwb 'ma ac yn yr ardal."
Mae Clwb Rygbi Aberstwyth wedi chwarae rhan flaenllaw ym mywyd Deian hefyd.
"Dyma lle ddechreuodd popeth i fi, o'r oedran o tua chwech lan i 16, atgofion melys iawn fan hyn o chware'n ifanc a rhai fydda i'n cofio am byth," meddai Deian.
Ychwanegodd Nicol: "Hebddo clwb Aber, fydde fe ddim wedi neud beth ma' fe wedi neud, ma'r clwb wedi bod 'na'r holl ffordd, ma' fe wedi bod yn clwb arbennig a ma' fe dal yn enjoio mynd nôl na."
"Ma' fe wastad wedi bod yn rhywun sydd â'r clwb yn bwysig iddo fe, ma' 'di 'ware 'ma dros 10 mlynedd, mynd wedyn lawr i Hartpury," ychwanegodd Emlyn.
Yn 16 oed, fe symudodd Deian i Goleg Hartpury yn Sir Gaerloyw.
"Jyst bod yn y coleg fan 'na, jyst gyd o'r bois 'ma yn meddwl am yr un dream, pawb isie bod yn chwaraewr rygbi a gweld Stephen Varney a Louis Rees-Zammit, jyst gweld nhw'n neud e a jyst gyrru fi mlaen pob dydd i trial neud beth o'n i'n gallu i fod ar y list 'na," meddai.
