'Meysydd amlwg i'w gwella' ar wardiau iechyd meddwl yng Nghaerfyrddin
Mae 'meysydd amlwg i'w gwella' er gwaethaf 'arferion cadarnhaol' ar Wardiau Iechyd Meddwl yng Nghaerfyrddin yn ôl adroddiad newydd.
Daw adroddiad Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn dilyn ymweliad dirybudd ag Uned Diogelwch Isel ac Uned Gofal Seiciatrig Dwys Cwm Seren, sy'n rhan o Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.
Fe gafodd yr arolygiad ei gynnal dros dri niwrnod ym mis Tachwedd y llynedd, ac roedd yn canolbwyntio ar y gofal sy'n cael ei ddarparu ar y ddwy ward arbenigol i gefnogi pobl ag anghenion iechyd meddwl cymhleth.
Dywed yr adroddiad fod cleifion wedi dweud wrth arolygwyr eu bod yn teimlo'n ddiogel ar y cyfan a bod y staff yn garedig a chefnogol.
Ond mae'r adroddiad hefyd yn dweud fod rhai o'r cleifion wedi nodi meysydd lle mae angen gwella profiad y claf, gan gynnwys o ran "urddas, parch a gwrando gweithredol."
Fe ddywedodd rhai o'r cleifion fod y matresi yn anghyfforddus ar gyfer arosiadau hir a bod dewis "cyfyngedig ac ailadroddus" o brydau bwyd.
Yn ôl yr adroddiad hefyd, roedd pryderon amgylcheddol gan arolygwyr gan gynnwys ardaloedd llaith (neu damp), cyfarpar wedi torri a pheiriannau dosbarthu sebon annigonol.
Fe nododd yr adroddiad nad oedd llawer o gyfleoedd ar gyfer gweithgareddau corfforol, ac nad oedd y mwyafrif o'r cyfarpar yn y gampfa yn gweithio.
Nid oedd yr ardd yn cael ei chynnal a'i chadw'n ddigonol chwaith yn ôl yr adroddiad, ac roedd y ffactorau hyn yn "lleihau'r cyfleoedd ar gyfer gweithgareddau corfforol sy'n elfen bwysig o ran gwella iechyd meddwl."
'Gwelliannau sylweddol'
Nid oedd seicolegydd wedi bod yn gweithio ar y wardiau ers dros ddwy flynedd yn ôl yr adroddiad.
Er bod yr adroddiad yn cdnabod "ymrwymiad a thosturi" y staff, mae angen "gwelliannau sylweddol" er mwyn mynd i'r afael â "risgiau amgylcheddol a risgiau yn ymwneud â diogelwch, gwella cydymffurfiaeth â hyfforddiant, a gwella profiad y claf."
Dywedodd Alun Jones, Prif Weithredwr Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru: "Mae'n amlwg fod staff Cwm Seren yn ymrwymedig i ddarparu gofal diogel a thosturiol o dan amgylchiadau a all fod yn heriol iawn. Er i ni weld rhai arferion cadarnhaol a gwaith tîm cryf, nododd ein harolygiad faterion yn ymwneud â'r amgylchedd, diogelwch a phrofiad y claf y mae'n rhaid mynd i'r afael â nhw ar fyrder.
"Rydym yn disgwyl i'r bwrdd iechyd gymryd camau'n ddi-oed i wella'r amgylchedd therapiwtig, atgyfnerthu hyfforddiant staff, a sicrhau bod cleifion yn cael y gofal parchus ac ymgysylltiol sy'n canolbwyntio ar wella y maent yn ei haeddu. Byddwn yn parhau i fonitro'r cynnydd yn agos."
