Beirniadu cydberchennog Man Utd am ei sylwadau am 'goloneiddio' Prydain

Syr Jim Ratcliffe
Syr Jim Ratcliffe

Mae Syr Keir Starmer wedi galw ar gydberchennog clwb pêl-droed Manchester United i ymddiheuro am ei sylwadau wedi iddo ddweud bod Prydain wedi cael ei "choloneiddio" gan fewnfudwyr.

Mewn cyfweliad gyda Sky ddydd Mercher, dywedodd y dyn busnes Syr Jim Ratcliffe, sydd yn byw ym Monaco ers 2020: "Allwch chi ddim cael economi gyda naw miliwn o bobl ar fudd-daliadau a lefelau enfawr o fewnfudwyr yn dod i mewn.

"Hynny yw, mae'r DU wedi cael ei choloneiddio. Mae'n costio gormod o arian.

"Mae'r DU wedi cael ei gwladychu gan fewnfudwyr, wir, ond yw hi? Hynny yw, roedd poblogaeth y DU yn 58 miliwn yn 2020, nawr mae'n 70 miliwn. Dyna 12 miliwn o bobl.”

Mae ffigyrau swyddogol Swyddfa Ystadegau Gwladol yn awgrymu nad yw ffigyrau Jim Ratcliffe am fewnfudo yn gywir.

Yn ôl yr ystadegau, maint poblogaeth Prydain yn 2020 oedd 67 miliwn. Maint y boblogaeth yn 2000 oedd 58 miliwn.

Mewn datganiad nos Fercher ar gyfryngau cymdeithasol, dywedodd y Prif Weinidog Syr Keir Starmer fod sylwadau Jim Ratcliffe yn "sarhaus ac anghywir."

"Mae Prydain yn wlad falch, oddefgar ac amrywiol. Dylai Jim Ratcliffe ymddiheuro.”

Nid dyma'r tro cyntaf i Mr Ratcliffe leisio ei farn yn agored am wleidyddiaeth. Roedd yn gefnogwr brwd o Brexit, ac mae wedi lleisio ei gefnogaeth i'r broses ffracio hefyd.

Ychwanegodd yn ei gyfweliad fod Syr Keir yn ddyn "dymunol" ond fod angen gwleidydd oedd yn fodlon bod yn amhoblogaidd am gyfnod er mwyn wynebu rhai o heriau anoddaf y wlad.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.