Honiadau am gyffuriau colli pwysau anghyfreithlon mewn salonau
Mae'r heddlu yn ymchwilio i honiadau bod meddyginiaethau colli pwysau anghyfreithlon yn cael eu hysbysebu ar-lein a'u gwerthu mewn salonau harddwch yn y gogledd.
Mae swyddogion wedi chwilio tri safle yn Sir Wrecsam a Sir y Fflint hyd yma, lle mae Retatrutide – meddyginiaeth nad yw wedi'i thrwyddedu yn y DU – a meddyginiaethau eraill sydd o bosib yn ffug ac yn honni eu bod yn Tirzepatide (Mounjaro) a Semaglutide (Ozempic) wedi cael eu darganfod.
Mae tri pherson wedi cael eu harestio ar amheuaeth o dwyll trwy gamliwio.
Dywedodd yr Arolygydd Ditectif Claire Roberts bod yr ymchwiliad yn parhau.
"Rydym yn annog pobl i fod yn ofalus ac yn gofyn i unrhyw un â gwybodaeth sy'n gysylltiedig â gwerthu meddyginiaeth colli pwysau ffug i gysylltu â ni," meddai.
Dywedodd llefarydd ar ran yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA): "Mae Retatrutide mewn datblygiad clinigol ac nid yw wedi’i gymeradwyo i’w ddefnyddio yn y DU.
"Y tu allan i dreialon clinigol awdurdodedig, mae unrhyw gynhyrchion sy’n cael eu gwerthu yn y DU sy’n honni eu bod yn cynnwys Retatrutide (ac efallai nad ydynt) yn cael eu gwerthu a’u cyflenwi y tu allan i’r gadwyn gyflenwi gyfreithiol ac maent o bosib yn beryglus i’ch iechyd.
"Mae’r rhan fwyaf o feddyginiaethau colli pwysau awdurdodedig ar bresgripsiwn yn unig, sy’n golygu bod rhaid cael apwyntiad gyda meddyg neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol cymwys i asesu addasrwydd y claf ar gyfer y driniaeth.
"Dim ond o fferyllfa gofrestredig y dylid cael meddyginiaethau presgripsiwn gyda phresgripsiwn dilys."
'Risgiau difrifol'
Ychwanegodd Rick Lines, pennaeth rhaglen camddefnyddio sylweddau Iechyd Cyhoeddus Cymru: "Dylai pobl fod yn ymwybodol bod prynu meddyginiaethau presgripsiwn o ffynonellau answyddogol ar-lein neu drwy grwpiau cyfryngau cymdeithasol yn cario risgiau difrifol.
"Nid oes unrhyw warant mai’r hyn rydych chi’n meddwl eich bod chi’n ei brynu yw’r hyn rydych chi’n ei gael mewn gwirionedd.
"Gall rhai cyffuriau sy'n cael eu gwerthu drwy ffynonellau answyddogol – gan gynnwys y rhai sy'n cael eu hysbysebu ar gyfer colli pwysau – gynnwys y cynhwysion anghywir, lefelau peryglus o sylweddau gweithredol, neu ddim cynhwysyn gweithredol o gwbl.
"Gall defnyddio meddyginiaethau presgripsiwn heb oruchwyliaeth feddygol briodol arwain at sgil-effeithiau difrifol, rhyngweithiadau annisgwyl â chyffuriau eraill, neu niwed i’ch iechyd.
"Dylai unrhyw un sy’n pryderu am eu pwysau neu unrhyw broblem iechyd arall siarad â’u meddyg teulu neu fferyllydd am gyngor diogel a dibynadwy."