Cyhoeddi grŵp Cymru yng Nghynghrair y Cenhedloedd
Mae grŵp Cymru yng Nghynghrair y Cenhedloedd UEFA wedi cael ei gyhoeddi.
Fe fydd tîm Craig Bellamy yn wynebu Portiwgal, Denmarc a Norwy.
Fe ddywedodd Prif Weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru Noel Mooney ddydd Iau y gallai Stadiwm Principality gael ei defnyddio yn ystod yr ymgyrch pe bai Cymru yn wynebu gwrthwynebydd "mawr iawn".
"Mae rhaid i ni fod yn glyfar gan ein bod ni'n cynnal Euro 2028 yn Stadiwm Principality a meddwl am yr amser iawn i chwarae yno," meddai.
"Does dim dwy ffordd amdani. Dydyn ni ddim yn mynd i fynd i gêm agoriadol Euro 2028 ac yn edrych fel twristiaid."
Fe fydd Lloegr yn wynebu Sbaen, Croatia a'r Weriniaeth Tsiec, ac fe fydd yr Alban yn herio'r Swistir, Slofenia a Gogledd Macedonia.
Bydd Gogledd Iwerddon yn wynebu Hwngari, Wcráin a Georgia, tra y bydd Gweriniaeth Iwerddon yn herio Israel, Awstria a Kosovo.
Fe fydd y gemau yn cael eu chwarae rhwng mis Medi a Thachwedd 2026.