Cyhuddo dyn ar ôl i wy gael ei daflu tuag at gyfeiriad y Brenin Charles
07/12/2022
Mae dyn 28 oed wedi cael ei gyhuddo o gyflawni trosedd trefn gyhoeddus wedi i wy gael ei daflu tuag at gyfeiriad y Brenin Charles.
Gwrthododd Heddlu Sir Bedford â datgelu enw'r dyn sydd yn cael ei gyhuddo.
Mewn datganiad, dywedodd y llu fod "dyn 28 oed wedi cael ei gyhuddo yn gysylltiedig â digwyddiad a ddigwyddodd yn ystod ymweliad Ei Fawrhydi Brenin Charles III â Luton ddydd Mawrth."
Bydd yn ymddangos o flaen Llys Ynadon Luton ym mis Ionawr 2023.
Daw'r digwyddiad diweddaraf, wythnosau'n unig ers i ddyn 23 oed, Patrick Thelwell gael ei arestio am daflu wy at y Brenin a'r' Frenhines Gydweddog tra roedden nhw'n ymweld â Chaerefrog.