Newyddion S4C

'Cysur a llawenydd': Gwirfoddolwyr yn gwneud llwyth o anrhegion i gleifion

Y Whizzknits

Mae grŵp gwirfoddol wedi ei ganmol am ddod â “chysur a llawenydd” i gleifion yn ysbytai Bae Abertawe.

Yr hyn maen nhw'n gwneud yw creu hyd at 600 o anrhegion bob mis i'r cleifion.  

Fe benderfynodd Wendy Bartlett sefydlu grŵp cymunedol y Whizzknits ar ôl i aelodau o'i theulu ddioddef o ganser a chyflyrau iechyd difrifol eraill.

Mae’n dweud bod ei hobi bellach yn ei galluogi i ddweud diolch i staff Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe am eu holl gymorth.

Gyda 612 o wirfoddolwyr yn ei helpu erbyn hyn, mae’r grŵp bellach yn creu miloedd o anrhegion i gleifion yn y gobaith o leddfu eu pryderon wrth ymweld â’r ysbyty. 

“Fe ddechreuais i fel diolch ac roeddwn i’n meddwl bod hyn yn ffordd wych i bobl eraill roi yn ôl i’r gymuned.

“Rwyf wrth fy modd â’r hyn rwy’n ei wneud a gweld y wên y mae’n ei roi i bobl, mae pob un ohonom yn ei wneud.

“Fe wnaethon ni sylweddoli wedyn bod gwir angen yr eitemau rydyn ni’n eu cynhyrchu,” meddai. 

Image
Tegannau

'Gweithio fel Trojans'

O flancedi sy’n cysuro’r rhai mewn gofal diwedd oes i orchuddion i fabanod yn yr ysbyty, mae’r grŵp yn gweithio’n galed i greu digon o eitemau trwy gydol y flwyddyn. 

Maen nhw’n creu rhwng 400 a 600 o eitemau'r mis i’w defnyddio fel gwobrau i’r plant ar y wardiau pediatrig a’r unedau asesu ar draws y bwrdd iechyd. 

Dywedodd Ms Bartlett: “Mae fy nhîm amhrisiadwy ac ymroddedig o 14 o wirfoddolwyr ymroddedig yn gweithio fel Trojans i sicrhau bod ceisiadau’n cael eu llenwi a’u cyflawni ar amser.

“Nid dim ond y gweu yr ydym yn ei wneud ar eu cyfer. Mae gan ein heitemau werth ac mae eu cynhyrchu wedi creu lle cynnes, deniadol i bobl ddod at ei gilydd."

Y llynedd, cynhyrchodd y Whizzknits mwy na 7,000 o eitemau.

Image
Y Whizzknits

Prif lun: Wendy Bartlett (pedwerydd o'r dde) yn ymuno â rhai o wirfoddolwyr Whizzknits (Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe)

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.