Newyddion S4C

Canolfan weithgareddau Parc Glasfryn ger Pwllheli wedi ei rhoi yn nwylo'r gweinyddwyr

Glasfryn

Mae'r cwmni sydd yn rhedeg canolfan weithgareddau Parc Glasfryn ger y Ffôr, Pwllheli, wedi ei roi yn nwylo'r gweinyddwyr.

Cafodd cwmni Glasfryn Parc Ltd ei roi yn nwylo'r gweinyddwyr gan unig gyfarwyddwr y cwmni, Jonathan Clough Williams-Ellis, ar ddechrau mis Rhagfyr.

Mae Parc Glasfryn yn ganolfan boblogaidd ar gyfer gweithgareddau sydd yn cynnwys saethyddiaeth, bowlio deg, rasio go-kart, a safle chwarae dan do, ac mae'n cyflogi nifer o weithwyr yn lleol.

Nid yw'n eglur ar hyn o bryd beth yw dyfodol y safle na'r swyddi hyn.

Penderfyniad gwirfoddol i ddiddymu'r cwmni ('voluntary liquidation') oedd hwn yn ôl cofnodion diweddaraf Tŷ'r Cwmnïau.

Mae Andrew Knowles a Daniel Ormerod o gwmni Leonard Curtis yn Lerpwl wedi eu penodi yn weinyddwyr ar asedau'r cwmni wrth iddo fynd drwy'r broses o gael ei ddiddymu.

Yn ôl Datganiad o Faterion cwmni Glasfryn Parc Ltd yn Nhŷ'r Cwmnïau, roedd gan y cwmni gyfanswm o £340,350 yn ddyledus i gredudwyr pan gafodd y penderfyniad ei wneud i'w ddiddymu.

Roedd hyn yn cynnwys ychydig dros £100,000 i adran Gyllid a Thollau ei Mawrhydi, a £20,737 i Gyngor Gwynedd.

Mae Newyddion S4C wedi cysylltu gyda Mr Clough Williams-Ellis am ymateb.

Dyma'r ail gwmni i ddod i ben yn lleol o fewn ychydig fisoedd.

Ym mis Medi cyhoeddodd Glasfryn Fencing eu bod yn dirwyn i ben ar ddiwedd y mis hwnnw, gan arwain at golli naw swydd.

 Llun: Croeso Cymru

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.