Newyddion S4C

Rhybudd melyn am eira a rhew i'r gogledd a'r gorllewin ddydd Iau

Rhybudd Tywydd 09.01.24

Mae rhybudd melyn am eira ac amodau rhewllyd wedi’i gyhoeddi ar gyfer rhannau helaeth o Gymru ddydd Iau.

Mae’r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio y gallai’r amodau gaeafol effeithio ar ffyrdd a gwasanaethau trên, a chynyddu’r risg o lithro ar arwynebau rhewllyd.

Fe fydd y rhybudd mewn grym rhwng 03.00 a 12.00 ddydd Iau.

Daw’r cyhoeddiad wrth i ragolygon tywydd awgrymu y gallai'r tymheredd blymio mor isel â -15 gradd celsius mewn rhannau o’r Deyrnas Unedig dros nos, ar noson oeraf y gaeaf hyd yma.

Mae disgwyl i’r tymheredd ostwng i - 5 gradd celsius mewn rhannau gwledig o Gymru yn ystod oriau man fore Iau.

Bydd y rhybudd yn effeithio ar y siroedd canlynol:

Abertawe

- Ceredigion

- Conwy

- Gwynedd

- Powys

- Sir Benfro

- Sir Ddinbych 

- Sir Gâr

- Sir y Fflint 

- Wrecsam

- Ynys Môn

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.