Dirwyo cwmni Cymreig am gynnig cyngor pensiynau anaddas
Mae cwmni o'r gorllewin oedd wedi rhoi cyngor i bobl i roi'r gorau i'w pensiynau gwerthfawr wedi cael dirwy o bron i £2.4m gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol.
Ymysg y gweithwyr i dderbyn cyngor gan gwmni Pembrokeshire Mortgage Centre Limited (PMC), oedd yn masnachu o dan yr enw 'County Financial Consultants', oedd gweithwyr British Steel.
Cynghorodd PMC 420 o ddefnyddwyr am eu pensiynau, gan hawlio dros £2m mewn ffioedd trosglwyddo a chostau am gyngor.
Y gwerth trosglwyddo cyfartalog fesul cwsmer oedd tua £293,000, neu £314,000 ar gyfer aelodau cynllun pensiwn British Steel, meddai’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol.
Ers diwedd mis Tachwedd, mae Cynllun Iawndal y Gwasanaethau Ariannol wedi cadarnhau 213 o hawliadau trosglwyddo pensiwn yn erbyn PMC ac wedi talu mwy na £13.3m mewn iawndal i bobl oedd wedi dioddef.
Roedd llawer o’r bobl a gafodd eu cynghori mewn sefyllfa fregus oherwydd yr ansicrwydd ynghylch dyfodol pot pensiwn British Steel, a’r cyfnod byr oedd ganddynt i wneud penderfyniad ar y pryd.
Dywedodd Mark Steward, cyfarwyddwr gweithredol gorfodi a goruchwylio’r farchnad gyda'r Awdurdod Ymddygiad Ariannol: “Cynghorodd Pembrokeshire Mortgage Centre gannoedd o ddefnyddwyr i roi’r gorau i bensiynau buddion diffiniedig gwerthfawr heb unrhyw gyfiawnhad na sail resymegol ddigonol, gan ddefnyddio templed cyffredinol nad yw wedi’i deilwra i amgylchiadau penodol cwsmeriaid, tra'n ennill ffioedd wrth wneud hynny.
“Roedd ansawdd y cyngor a welwyd yma yn druenus. Roedd y methiannau’n arbennig o enbyd yng nghyd-destun Cynllun Pensiwn British Steel, lle’r oedd cwsmeriaid mewn sefyllfa anarferol o fregus. Mae ymchwiliad yr FCA i gyfranogiad eraill yn y materion hyn yn parhau.
“Dylai unrhyw ddefnyddwyr sy’n cael eu cynghori i drosglwyddo gysylltu â Chynllun Iawndal y Gwasanaethau Ariannol i weld a oes iawndal yn ddyledus iddynt.”