Sajid Javid i ymddiswyddo fel AS yn yr etholiad nesaf
Mae’r cyn-ganghellor ac ysgrifennydd iechyd Sajid Javid wedi dweud y bydd yn ymddiswyddo fel AS yn yr etholiad cyffredinol nesaf.
Dywedodd Mr Javid, AS dros Bromsgrove yn Sir Gaerwrangon, ei fod wedi gwneud y penderfyniad "ar ôl llawer o fyfyrio".
Dywedodd fod ei benderfyniad wedi'i gyflymu gan adolygiad o fewn y Blaid Dorïaidd, sy'n gofyn i ASau presennol nodi nawr a ydyn nhw am sefyll eto.
Mae disgwyl i 11 o ASau Torïaidd presennol roi’r gorau iddi yn yr etholiad nesaf, ac mae disgwyl i'r etholiad cyffredinol nesaf ddigwydd yn 2024.
Mewn llythyr a gafodd ei gyhoeddi ar Twitter, dywedodd Mr Javid ei fod yn "benderfyniad rydw i wedi brwydro ag ef ers peth amser".
Dywedodd fod gwasanaethu yn y llywodraeth yn “fraint fy mywyd” ac ychwanegodd: “Ni allaf ond gobeithio bod fy ngorau yn ddigonol.
“Byddaf wrth gwrs yn parhau i gefnogi fy ffrind y Prif Weinidog a phobl Bromsgrove mewn unrhyw ffordd y gallaf.”