Newyddion S4C

Rhagflas o gemau nos Wener yn y JD Cymru Premier

Sgorio 02/12/2022
Drenewydd v Fflint

Wyth rownd o gemau sydd i fynd tan yr hollt yn nghynghrair y Cymru Premier JD ac mae’r ras i gyrraedd y Chwech Uchaf yn poethi.

Wedi 22 rownd o gemau bydd y tabl yn hollti’n ddwy a bydd clybiau’r chwech uchaf yn cystadlu am lefydd yn Ewrop tra bydd y chwech isaf yn brwydro i aros yn y gynghrair.

A nos Wener mae cyfle i’r bwlch rhwng y chwech uchaf a’r chwech isaf ehangu gan bod y chwe chlwb ucha’n y tabl ar hyn o bryd yn herio’r chwe chlwb isaf.

Airbus UK (12fed) v Cei Connah (2il) | Nos Wener – 19:45

Airbus yw’r unig dîm sydd eto i ennill gêm gynghrair y tymor yma ac mae Hogiau’r Maes Awyr yn dechrau’r penwythnos 17 pwynt tu ôl i ddiogelwch y 10fed safle.

Bydd Cei Connah yn llawn hyder yn dilyn eu buddugoliaeth yn erbyn Ffynnon Taf y penwythnos diwethaf wrth i’r Nomadiaid sicrhau eu lle yn rownd derfynol Cwpan Nathaniel MG am y trydydd tro’n olynol.

Mae tîm Neil Gibson ar rediad o 13 gêm heb golli ym mhob cystadleuaeth (ennill 12, cyfartal 1), ac yn benderfynol o gau’r bwlch o saith pwynt sydd yn eu gwahanu nhw a’r ceffylau blaen, Y Seintiau Newydd.

Dydd Calan 2016 oedd y tro diwethaf i Airbus guro’r Nomadiaid (Air 3-2 Cei), ond ers hynny mae Cei Connah wedi ennill 11 gêm yn olynol yn erbyn eu cymdogion o Frychdyn.

Record cynghrair diweddar:
Airbus UK: ❌❌❌❌❌

Cei Connah: ➖✅✅✅✅

Caernarfon (5ed) v Y Drenewydd (9fed) | Nos Wener – 19:45

Bythefnos yn ôl fe lwyddodd Caernarfon i ddod y tîm cyntaf i gipio pwynt oddi cartref yn erbyn Cei Connah ers mis Chwefror (Cei 3-3 Cfon), ond bydd Huw Griffiths yn rhwystredig bod y Cofis wedi gorfod rhannu’r pwyntiau ar ôl bod 3-0 ar y blaen yn Stadiwm Glannau Dyfrdwy gyda dim ond 22 o funudau ar ôl i’w chwarae.

Wedi dechrau simsan i’r tymor mae’r Drenewydd wedi agor bwlch o bedwar pwynt rhyngddyn nhw a’r ddau isaf yn dilyn rhediad o dair buddugoliaeth yn olynol.

Ers eu gêm ddi-sgôr yn erbyn Y Seintiau Newydd ar y penwythnos agoriadol dyw’r Drenewydd heb gadw llechen lân mewn 15 gêm ym mhob cystadleuaeth.

Ond bydd Chris Hughes yn cymeryd cysur o’r ffaith bod y Robiniaid wedi ennill eu saith gêm ddiwethaf yn erbyn y Caneris gan ildio dim ond unwaith mewn chwe gêm yn erbyn Caernarfon.

Record cynghrair diweddar:
Caernarfon: ➖❌✅❌✅

Y Drenewydd: ✅✅❌✅

Hwlffordd (8fed) v Pen-y-bont (3ydd) | Nos Wener – 19:45

Wedi pum colled yn olynol mae Hwlffordd wedi troi’r gornel gan ennill eu dwy gêm ddiwethaf yn erbyn Y Fflint ac Airbus i godi o’r gwaelodion i’r 8fed safle.

Yn yr hanner uchaf mae Pen-y-bont wedi cadw tair llechen lân yn olynol i ddal eu gafael ar y 3ydd safle yn y ras i gyrraedd Ewrop.

Dyw Pen-y-bont heb golli dim un o’u naw gêm flaenorol yn erbyn Hwlffordd (ennill 7, cyfartal 2), ac mae tîm Rhys Griffiths wedi sgorio 13 gôl mewn pum gêm yn erbyn yr Adar Gleision gyda 12 sgoriwr gwahanol yn taro cefn y rhwyd a’r chwaraewr-reolwr Griffiths yr unig un i sgorio ddwywaith i Bont yn ystod y cyfnod hwnnw.

Record cynghrair diweddar:
Hwlffordd: ✅✅❌
Pen-y-bont: ➖✅➖❌✅

Pontypridd (11eg) v Met Caerdydd (6ed) | Nos Wener – 19:45 (S4C arlein)

Mae Pontypridd wedi llithro i safleoedd y cwymp ar ôl colli pedair o’u pum gêm gynghrair ddiwethaf, gyda’r unig fuddugoliaeth yn dod yn erbyn Airbus UK sydd ar waelod y tabl.

Roedd hi’n driphwynt da i Met Caerdydd yn eu gêm gynghrair ddiwethaf bythefnos yn ôl wrth i’r myfyrwyr ennill 1-0 yn erbyn Y Bala, ond fe dalodd criw Colin Caton y pwyth yn ôl ddydd Sadwrn gan guro Met o 2-0 yn rownd gynderfynol Cwpan Nathaniel MG.

Yn 14 gêm gynghrair Met Caerdydd y tymor yma, dim ond ddwywaith y mae’r ddau dîm wedi sgorio yn ystod y gêm (Cfon 5-1 Met, Met 2-1 Aber) gyda’r myfyrwyr yn cadw chwe llechen lân, ac yn methu a sgorio yn y chwe gêm arall.

3-0 i Met Caerdydd oedd hi yn y gêm gyfatebol ym mis Awst gyda Sam Jones yn taro ddwywaith i’r myfyrwyr, ond ers rhwydo chwe gôl ym mis Awst ac ennill gwobr ‘Chwaraewr y Mis’ dyw’r blaenwr heb sgorio mewn 10 ymddangosiad yn y gynghrair.

Record cynghrair diweddar:
Pontypridd: ❌❌✅❌
Met Caerdydd: ✅❌❌✅

Y Bala (4ydd) v Y Fflint (10fed) | Nos Wener – 19:45

Roedd hi bron a bod ym mis Tachwedd perffaith i’r Bala – curo Aber yn y gynghrair, curo’r Fflint yng Nghwpan Cymru a churo Met Caerdydd yng Nghwpan Nathaniel MG heb ildio gôl.

Ond yng nghanol y buddugoliaethau cafwyd un colled yn y gynghrair yn erbyn Met Caerdydd ac hynny’n golygu bod Y Bala bellach saith pwynt y tu ôl i Gei Connah yn y ras am Ewrop.

Ar ôl ennill eu dwy gêm agoriadol, mae’r Fflint wedi stryffaglu gyda dim ond dwy fuddugoliaeth mewn 12 gêm gynghrair ers hynny, a’r ddwy yn erbyn Airbus UK.

Hon fydd y drydedd gêm rhwng y ddau dîm y tymor yma a dyw’r Bala heb golli dim un o’u naw gêm ddiwethaf yn erbyn y Sidanwyr (ennill 8, cyfartal 1).

Record cynghrair diweddar:
Y Bala: ❌✅➖✅❌

Y Fflint: ❌❌❌✅❌

Y Seintiau Newydd (1af) v Aberystwyth (7fed) | Nos Wener – 19:45

Er eu gêm ddi-sgôr yn erbyn Pen-y-bont bythefnos yn ôl mae’r Seintiau Newydd yn parhau saith pwynt yn glir ar frig y tabl, ac mae’r pencampwyr bellach ar rediad o 20 gêm gynghrair heb golli (ennill 17, cyfartal 3).

Ers dechrau’r tymor diwethaf (2021/22) dyw’r Seintiau ond wedi colli dwy o’u 46 gêm gynghrair, a daeth un o’r colledion hynny yn erbyn Aberystwyth ym mis Tachwedd 2021 (Aber 1-0 YSN).

Ond dyw’r Seintiau’n dal heb golli gêm gynghrair y tymor hwn, na chwaith wedi colli gartref yn erbyn Aberystwyth ers 29 o flynyddoedd (Tachwedd 1993)!

Dyw Aberystwyth heb ennill oddi cartref yn y gynghrair ers curo Airbus ar y penwythnos agoriadol (Air 1-2 Aber), gan golli pob un o’u pum gêm oddi cartref yn y gynghrair ers hynny.

Record cynghrair diweddar:

Y Seintiau Newydd: ➖✅✅✅✅
Aberystwyth: ✅❌✅ ❌✅

Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio a bydd y gorau o gemau’r penwythnos i’w gweld ar S4C nos Lun am 9:30.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.