Newyddion S4C

Gwleidyddion yn pleidleisio o blaid cynyddu nifer aelodau Senedd Cymru

08/05/2024

Gwleidyddion yn pleidleisio o blaid cynyddu nifer aelodau Senedd Cymru

Mae Aelodau o Senedd Cymru wedi pleidleisio o blaid cynyddu eu niferoedd o 60 i 96 mewn pleidlais ym Mae Caerdydd ddydd Mercher. 

Fe fydd hyn yn golygu y bydd system bleidleisio newydd yn cael ei chyflwyno a hynny mewn pryd ar gyfer yr etholiad nesaf i'r Senedd yn 2026. 

Fe gafodd y mesur ei basio o 43 pleidlais i 16. 

Roedd Llafur a Phlaid Cymru yn cefnogi'r cynnig. 

Yn ôl y rhai sydd o blaid y newid, mae angen mwy o aelodau oherwydd bod grym y sefydliad wedi tyfu ar hyd y blynyddoedd ond bod nifer yr aelodau heb gynyddu.

Roedd y Ceidwadwyr wedi dadlau yn erbyn y cynllun gan ddweud ei fod yn wastraff o arian. 

Ar hyn o bryd, mae yna 40 o ASau a 20 o Aelodau Seneddol Rhanbarthol yn y Senedd, ond byddai'r system bleidleisio newydd yn disodli hynny, oherwydd y byddai 16 o etholaethau mwy yn cael eu creu, a phob un yn cael ei chynrychioli gan chwe aelod. 

Ar hyn o bryd, mae etholiadau'r Senedd yn cael eu cynnal bob pum mlynedd, ond o 2026 ymlaen, fe fyddant yn cael eu cynnal bob pedair blynedd.

Bydd angen i ymgeiswyr ar gyfer Senedd Cymru fod yn byw yng Nghymru hefyd.

Wedi'r bleidlais dywedodd y Cwnsler Cyffredinol Mick Antoniw:"Mae pasio'r Bil hwn yn garreg filltir nodedig i ddemocratiaeth Cymru.

"Yn ystod y chwarter canrif ddiwetha', mae cyfrifoldebau'r Senedd wedi cynyddu, gan gynnwys pwerau i basio deddfau ac amrywio trethi, ond does dim newid wedi bod i'w maint.

"Mae gan Gymru lai o gynrychiolaeth na'r un wlad arall yn y Deyrnas Unedig – y Senedd sydd â'r nifer lleiaf o Aelodau o blith y Seneddau datganoledig, ac mae nifer ein seddi yn San Steffan yn cael ei leihau.

"Heddiw, mae Aelodau o'r Senedd wedi pleidleisio i gywiro'r diffyg cynrychiolaeth hwnnw a chryfhau ein democratiaeth. Bydd y bleidlais hon yn sicrhau bod gan ein Senedd fwy o allu i graffu ar gyfreithiau a chynlluniau gwario, a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif."

Ar ran Plaid Cymru, dywedodd Sian Gwenllian AS:"Mae heddiw'n gam hanesyddol arall ymlaen sy'n cryfhau ein democratiaeth ac yn creu Senedd gryfach, fwy cynrychiadol a mwy effeithiol." 

Dim ond aelodau Ceidwadol bleidleisiodd yn erbyn y cynnig.

Dywedodd Darren Millar AS o'r blaid: "Mae angen mwy o arian ar ysgolion, ysbytai, llyfrgelloedd, a'r gwasanaethau eraill. Os ydyn nhw'n gwario degau o filiynau ar wleidyddion, dydyn nhw ddim yn gallu gwario'r arian yna ar wasanaethau cyhoeddus pwysig." 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.