Newyddion S4C

Y Cymry sy'n rhan o ymarferion enfawr NATO yn nwyrain Ewrop

Newyddion S4C 08/05/2024

Y Cymry sy'n rhan o ymarferion enfawr NATO yn nwyrain Ewrop

Yn nwyrain Ewrop, mae milwyr o Gymru ymysg lluoedd NATO sydd yn cynnal eu hymarferion mwyaf ar y cyfandir mewn cenhedlaeth.

Exercise Immediate Response yw’r ymarfer yng Ngwlad Pwyl, ac mae rhyw 600 o filwyr o Gatrawd y Cymry Brenhinol yn rhan ohono. 

Y bwriad yw dangos eu gallu i gydweithio gyda’i gilydd ac ymateb i fygythiad yn gyflym.

“Dyw hi ddim yn secret pam bod ni yma,” yw geiriau’r Uwch-Sarjant Terry Francis.

Image
Uwch Sarjant Terry Francis
Yr Uwch-Sarjant Terry Francis

Wrth gael ei holi a fyddai’r fyddin yn barod i ymateb petai Rwsia yn ymosod ymhellach i’r dwyrain nag Wcráin, dywedodd: “Dyma pam ‘da ni yma, dyma pam ein bod ni’n ymarfer. Maen nhw’n medru gweld pam ddylai nhw ddim bygwth a dod aton ni.

“Dy’n ni’n gwybod pam bod ni yma, dy’n ni’n gwybod beth ydyn ni’n ei wneud gyda’r Americanwyr, gyda Gwlad Pwyl, gyda NATO gyfan.”

“‘Da ni’n barod am beth bynnag sy’n mynd i ddigwydd yn y dyfodol,” meddai.

Image
NATO

Gyda’r rhyfel yn Wcráin yn parhau, a rhethreg gwrth-orllewinol rheolaidd yn dod o gyfeiriad Moscow, mae cynnal ymarfer mwyaf NATO yn Ewrop ers diwedd y rhyfel oer yn arwyddocaol. 

'Cyd-destun y rhyfel yn Wcráin'

Ddydd Mawrth, dechreuodd Vladimir Putin ar ei bumed tymor fel Arlywydd Rwsia. 

Mewn araith, dywedodd fod gwledydd y gorllewin yn “parhau i fygwth” ffordd Rwsiaid o fyw. 

Dywedodd hefyd y byddai'n “goresgyn pob rhwystr” i sicrhau bod Rwsia yn “ennill”.

Image
NATO

Dyw Prif Swyddog Catrawd y Cymry Brenhinol, Edward Willcox, ddim am gael ei dynnu i drafodaeth am Rwsia.

“Fyddai hi ddim yn iawn ohona’i i ddweud nad yw’r ymarferion yma’n digwydd yng nghyd-destun rhyfel yn Wcráin. 

"Ond nid dyna bwrpas yr ymarfer. Dwi’n credu mai pwrpas yr ymarfer yw, fel mae NATO wedi ei wneud erioed, defnyddio ymarferion caled i arddangos ei gallu fel cynghrair amddiffynnol.

“Os ydyn ni drwy hynny yn rhoi sicrwydd i bobl bod NATO mor gryf a galluog ag yr oedd hi erioed, mae hynny’n beth da.”

Ynghyd â’r milwyr rheolaidd, mae rhai milwyr wrth gefn hefyd yn rhan o’r ymarferion yng Ngwlad Pwyl.

Image
IS-GYRNOL EDWARD WILLCOX
Prif Swyddog Catrawd y Cymry Brenhinol, Edward Willcox

Milwyr wrth gefn

Ac wrth gael eu hanfon i wlad sydd yn ffinio gydag Wcráin, mae rhai yn meddwl am yr hyn allai ddigwydd petai Vladimir Putin yn troi ei olygon yn bellach i’r gorllewin. 

Peiriannydd yng ngorsaf niwclear Trawsfynydd yw Peredur Jones wrth ei waith bob dydd. Ond ar hyn o bryd, mae yng ngwlad Pwyl gyda milwyr wrth gefn eraill.

“Mae e bob tro yng nghefn y pen” y gallech chi gael eich anfon i ryfel go iawn, meddai wrth Newyddion S4C. 

“Ond ma' gynnon ni dîm da, ‘da ni’n cael training da. Mae’n rhoi asgwrn cefn i ni bod ni’n gwybod beth sydd yn mynd ymlaen. Mae hynny’n beth da.”

Erbyn diwedd y mis, bydd y Cymry Brenhinol wedi gadael Gwlad Pwyl. 

Ond fe fydd ymarferion NATO yn Ewrop, ar garreg drws Rwsia, yn parhau.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.