Llygredd o fwyngloddio metel hanesyddol 'yn bygwth iechyd 200,000 o bobl yng Nghymru'
Mae tua 200,000 o bobl yng Nghymru mewn perygl o ddioddef problemau iechyd am eu bod yn byw'n agos i ardaloedd sydd wedi eu llygru gan hen weithiau mwyngloddio metel, yn ôl arbenigwyr.
Dywedodd cadeirydd y Pwyllgor Dethol Cymreig yn San Steffan, Stephen Crabb A.S ei fod "yn bryderus" wedi i'r pwyllgor glywed tystiolaeth am y broblem ddydd Mercher.
"Mae hi'n amlwg nad ydi'r gyfundrefn yn addas i fynd i'r afael â'r broblem," meddai.
Dywedodd aelod arall o'r pwyllgor, Ruth Jones A.S: "Petawn i'n byw yng Ngheredigion, er enghraifft, fe fyddwn i eisiau gwybod bod popeth yn cael ei wneud i ddelio â'r broblem yma.
"O'r hyn rydw i wedi glywed heddiw, dydw i ddim wedi fy argyhoeddi fod popeth yn cael ei wneud er mwyn i mi deimlo'n ddiogel."
Dywedodd arbenigwr ar y pwnc, yr Athro Mark Macklin, wrth y pwyllgor fod ymchwil diweddar ganddo'n awgrymu bod tua 200,000 o bobl yng Nghymru yn byw'n agos i dir oedd yn cael ei lygru gan olion metel pan oedd dŵr yn gorlifo iddo.
Roedd tua 1,600 cilomedr o afonydd Cymru wedi eu llygru gan fwyngloddio metel hanesyddol, meddai.
Roedd mwyngloddio am fetel fel plwm, aur, a chopr ar ei anterth yng Nghymru yny 19eg ganrif, gyda nifer o safleoedd mwyngloddio yng Ngheredigion yn arbennig.
"Doedd 'na ddim rheoleiddio," meddai'r Athro Macklin. "Aeth y llygredd i mewn i sianelau afonydd, ac mae wedi aros yno. Dyw e ddim yn dirywio, mi fydd yn parhau yno tra byddwn ni'n fyw."
Hyd yma, meddai, roedd llawer o'r gwaith diogelu wedi canolbwyntio ar y safleoedd mwyngloddio eu hunain, yn hytrach na'r llefydd lle roedd y dŵr o'r safleoedd yma'n llifo.
Dywedodd bod newid hinsawdd yn gwaethygu'r broblem. Roedd gwartheg yn Ngheredigion wedi eu gwenwyno yn ystod llifogydd yn 2012 oherwydd eu bod wedi bwyta silwair oedd wedi ei lygru.
Dywedodd arbenigwr arall, Dr Andrea Sartorius, bod llygredd metel yn gallu cael effeithiau iechyd difrifol, yn arbennig ar blant ac anifeiliaid ifainc.
Roedd hynny'n gallu digwydd oherwydd dŵr neu pridd wedi ei lygru, meddai.
Roedd yn gallu achosi canser, anffrwythlondeb, a sawl salwch arall, ychwanegodd
Dywedodd Dave Johnston o Gyfoeth Naturiol Cymru eu bod wedi gwneud gwaith ar nifer o safleoedd i geisio lleihau'r broblem.
Er enghraifft, roedden nhw wedi gwneud gwaith sylweddol rhai blynyddoedd yn ôl i ddraenio dŵr o safle Mynydd Parys ar Ynys Môn, oedd ar un adeg y safle mwyngloddio copr mwyaf yn y byd.