Newyddion S4C

Prifathro'n derbyn fod ei ymddygiad â merch wedi bod yn 'amhriodol'

08/05/2024

Prifathro'n derbyn fod ei ymddygiad â merch wedi bod yn 'amhriodol'

Mae prifathro o Hen Golwyn sy’n wynebu honiadau o gam-drin plant yn rhywiol wedi derbyn fod ei ymddygiad gyda merch wedi bod yn amhriodol ar adegau.

Mae Neil Foden - oedd yn bennaeth yn Ysgol Friars, Bangor, ac yn Bennaeth Strategol Ysgol Dyffryn Nantlle, Penygroes - yn wynebu 20 o gyhuddiadau sy'n ymwneud â throseddau rhyw yn erbyn pump o blant rhwng Ionawr 2019 a Medi 2023. 

Mae’n gwadu'r cyhuddiadau yn ei erbyn.

Fe ddywedodd Mr Foden wrth Lys y Goron Yr Wyddgrug ddydd Mercher ei fod yn “rhywun sydd wastad eisiau helpu pobl” er bod hynny weithiau yn golygu ei fod yn rhoi ei hun mewn sefyllfaoedd a allai fod yn niweidiol iddo'i hun. 

Pan ofynnodd bargyfreithiwr yr amddiffyniad, Duncan Bould wrth Mr Foden, pam ei fod wedi mynd a Phlentyn A am deithiau yn ei gar, fe ddywedodd:

“Fi oedd yr unig berson yr oedd [Plentyn A] yn ymddiried ynddo, ac roedd hi'n n teimlo’n ddiogel yn siarad gyda fi pan oeddem yn gyfan gwbl ar ein pen ein hunain. 

"Roedd yn dweud ei bod yn ddibynnol ar y sgyrsiau yma hefo fi. Roedd wedi dweud wrtha i nad oedd eisiau marw bellach, ers iddi ddechrau cael y sgyrsiau yma hefo fi."

Ychwanegodd: “Roeddwn wedi cyrraedd sefyllfa lle roeddwn mewn ffrâm o feddwl mai fi oedd yr unig un oedd yn gallu ei chadw’n ddiogel.”

“Oeddech chi’n teimlo’n emosiynol felly?” holodd Mr Bould.

“Roeddwn wir yn poeni amdani, ond doeddwn i ddim yn teimlo fy mod ei heisiau yn rhamantus nag yn rhywiol", atebodd Neil Foden.

Lluniau

Pan ofynnodd y bargyfreithiwr am luniau ‘selfies’ oedd wedi eu tynnu gan y plentyn yng nghar Neil Foden, fe atebodd y diffynnydd: 

“Mi wrthodais i gael tynnu fy llun ar y dechrau, ond mi ddywedodd [Plentyn A] wrthai ei bod eisiau llun oedd yn ei hatgoffa o achlysur lle'r oedd yn teimlo’n ddiogel.”

Fe welodd y llys dystiolaeth fideo ddydd Mawrth, yn dangos Plentyn A yn gwisgo sawl crys gwrywaidd. 

Fe ofynnodd Duncan Bould wrth Mr Foden os oedd yn adnabod y crysau yn y lluniau?

Atebodd Neil Foden: “Oeddwn… roeddwn wedi dweud wrth [Plentyn A] fy mod am gael gwared o rai crysau oedd yn perthyn i mi, roedd gan [Blentyn A] wardrob gyfyngiedig, ac mi oedd hi ei heisiau nhw… 

"Mi ddywedodd wrthai ar ôl i mi eu rhoi nhw iddi ei bod yn eu defnyddio fel crysau nos.”

Croesholi

Wrth gael ei groesholi gan fargyfreithiwr yr erlyniad, John Philpotts brynhawn Mercher, fe ofynnodd y bargyfreithiwr gyfres o gwestiynau yn ymwneud â negeseuon Whatsapp yr honnir i Neil Foden fod wedi eu gyrru i Blentyn A yn yr achos.

Roedd Neil Foden eisoes wedi dweud wrth y llys ei fod wedi gyrru’r negeseuon WhatsApp yn trafod gweithred rywiol gyda merch ar gyfer ei chynghori am ryw, yn hytrach nag mewn modd oedd yn awgrymu ei fod yn bwriadu cynnal y weithgaredd rywiol gyda’r ferch.

“Beth ydych chi’n ei wneud yn siarad am bethau fel hyn gyda merch ifanc Mr Foden?” gofynnodd John Philpotts iddo.

“Dwi wedi cael cwestiynau o natur rywiol gan bobl ifanc yn y gorffennol, felly doedd dim o hyn yn newydd i mi, ac ni wnes i feddwl llawer o’r peth ar y pryd,” atebodd Mr Foden.

“Felly, addysgu’r ferch oedd eich bwriad gyda’r negeseuon yma Mr Foden?” 

“Cywir” atebodd.

Gwestai

Fe holodd Mr Philpotts os oedd y prifathro erioed wedi mynd a Phlentyn E i aros mewn gwestai dros nos ar dripiau y tu allan i Wynedd.

“Naddo", meddai. 

“Sut wnaeth Plentyn E lwyddo i fod yn eich ystafell mewn un gwesty, a llwyddo i dynnu lluniau o’r olygfa o’r ystafell honno ar yr un pryd a phan oeddech chi yn aros yno, a hyn oll yn ddiarwybod i chi Mr Foden?”

“Does gen i ddim syniad sut,” atebodd Mr Foden.

“Fe wnaethoch chi rannu gwely gyda hi’n do?”

“Naddo.”

“Fe wnaethoch chi gael cyfathrach rywiol yn do?”

“Naddo,” atebodd eto.

Aeth Neil Foden ymlaen i ddweud nad oedd wedi gweld Plentyn E yn agos i unrhyw westai yr oedd wedi aros ynddynt, ac nad oedd ganddo syniad sut na pham fod Plentyn E wedi gallu defnyddio ei cherdyn banc yn y gwestai ar yr un adegau ag yr oedd yn aros ynddynt.

“Does gen i ddim eglurhad am hyn” oedd ymateb Mr Foden.

Fe ofynodd Mr Philpotts hefyd iddo: “Roedd [Plant A,B,C,D ac E] i gyd yn ferched yr ydych yn ei ddweud eich bod wedi eu helpu, ond rydych chi hefyd yn dweud eu bod nhw i gyd yn dweud celwydd amdanoch?"

“Ydw,” atebodd Mr Foden.

“Pam ydych chi’n meddwl hynny?"

“Tydw i ddim yn gwybod” ychwanegodd y diffynnydd.

Mae'r achos yn parhau.
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.