Newyddion S4C

Mwyafrif Llafur yn cynyddu yng Nghaer yn isetholiad cyntaf Rishi Sunak

02/12/2022
S4C

Mae’r Blaid Llafur wedi ennill isetholiad Dinas Caer yn gyfforddus, yn y bleidlais gyhoeddus gyntaf ers i Boris Johnson a Liz Truss gael eu gorfodi allan o Rif 10.

Cadwodd Samantha Dixon y sedd i’w phlaid gyda 17,309 o bleidleisiau, 61% o'r pleidleisiau a bron i 11,000 yn fwy na’r ymgeisydd Ceidwadol.

Roedd Ms Dixon yn sefyll yn erbyn ymgeisydd y Ceidwadwyr a nyrs y GIG Liz Wardlaw.

Dywedodd Llafur fod y canlyniad yn un sy’n anfon “neges glir” at Mr Sunak a’i weinyddiaeth newydd.

Mewn araith fuddugoliaeth ar ôl i’r canlyniad gael ei gyhoeddi, dywedodd Ms Dixon: “Mae pobl yng Nghaer a ledled ein gwlad yn wirioneddol bryderus.

“Poeni am golli eu cartrefi oherwydd na allant fforddio’r ad-daliadau morgais na’r rhent, yn poeni a allant roi’r gwres ymlaen, yn poeni a allant roi bwyd ar y bwrdd i’w teuluoedd."

Roedd disgwyl i Lafur ddal gafael ar y sedd, ar ôl ei hennill yn 2019 am y trydydd tro yn olynol gyda mwyafrif o 6,164.

Y tro hwn, sicrhaodd y blaid fwy na 61% o'r pleidleisiau, gyda Ms Wardlaw yn cael 6,335 o bleidleisiau, neu 22.40%.

Dywedodd Ms Dixon wrth ohebwyr ei bod hi'n credu bod llawer o bobl ar draws y wlad yn teimlo'r un peth â phleidleiswyr yng Nghaer.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.