Perchennog TikTok 'ddim yn bwriadu gwerthu' er bod y cloc yn tician ar waharddiad yn yr Unol Daleithiau
Mae’r cwmni sy’n berchen ar TikTok wedi dweud nad oes ganddyn nhw unrhyw fwriad i werthu er eu bod nhw’n wynebu gwaharddiad yn yr Unol Daleithiau.
Fe wnaeth yr Arlywydd Joe Biden arwyddo cyfraith ddydd Mercher oedd yn dweud bod rhaid i gwmni Tsieineaidd ByteDance werthu TikTok neu wynebu y bydd y cyfrwng cymdeithasol yn cael ei wahardd.
“Nid oes gan ByteDance unrhyw gynlluniau i werthu TikTok,” postiodd y cwmni ar ei gyfrif swyddogol ar Toutiao, platfform cyfryngau cymdeithasol arall y mae’n berchen arno.
Yn gynharach yr wythnos hon dywedodd TikTok bod y gyfraith newydd yn “anghyfansoddiadol” a’u bod nhw’n bwriadu apelio.
Mae'r gyfraith newydd yn rhoi naw mis i ByteDance werthu eu siar yn y busnes, a chyfnod ychwanegol o dri mis cyn gorfodi gwaharddiad.
Mae hynny'n golygu y bydd y terfyn ar gyfer gwerthu ryw bryd yn 2025.
Mae ByteDance yn eiddo ar 20% o TikTok ar hyn o bryd ond mae hynny’n ddigon i roi cyfran reoli (controlling share) iddyn nhw o’r cwmni.
Mae llywodraeth China wedi wfftio pryderon am TikTok fel paranoia ac wedi rhybuddio y byddai gwaharddiad “yn dod yn ôl i frathu’r Unol Daleithiau”.