Cyngor Gwynedd yn pleidleisio i gynyddu premiwm treth cyngor ar ail gartrefi i 150%
Cyngor Gwynedd yn pleidleisio i gynyddu premiwm treth cyngor ar ail gartrefi i 150%
Mae Cyngor Gwynedd wedi pleidleisio o blaid cynyddu'r premiwm treth cyngor ar gyfer ail gartrefi i 150%.
Argymhelliad y Cabinet oedd y dylai premiwm treth cyngor ar ail gartrefi gynyddu o 100% i 150% o Ebrill 2023.
Roedd 37 aelod o blaid ac fe wnaeth 21 bleidleisio yn erbyn mewn cyfarfod llawn o'r Cyngor.
Dywed y Cabinet y dylid cadw’r premiwm ar dai gwag tymor hir ar y gyfradd bresennol o 100%.
Yn dilyn newid yn y ddeddf yn gynharach eleni, mae gan gynghorau Cymru'r hawl i gynyddu uchafswm y premiwm treth cyngor ar dai o’r math yma i hyd at 300% o Ebrill 2023 ymlaen.
Yn dilyn penderfyniad Cyngor Gwynedd brynhawn dydd Iau, bydd perchnogion ail gartrefi yn gweld eu bil treth yn codi o Ebrill 2023 ymlaen.
Fe wnaeth Aelod Cabinet Cyllid y Cyngor, y Cynghorydd Ioan Thomas, hefyd argymell fod unrhyw arian ychwanegol a ddaw i goffrau’r Cyngor yn sgil y newid yn cael ei glustnodi ar gyfer taclo’r argyfwng digartrefedd.
Gwelwyd cynnydd o 47% yn y nifer sy’n ddigartref yng Ngwynedd dros y ddwy flynedd ddiwethaf yn ôl y Cyngor.
Er mwyn helpu aelodau'r Cyngor i benderfynu cafodd ymgynghoriad cyhoeddus ei gynnal dros 28 diwrnod yn ystod misoedd Medi a Hydref eleni.