Rhieni yn poeni am brisioed Gŵyl y Gaeaf Caerdydd

Mae mam wedi mynegi ei syndod ar ôl talu £47 am ddau fag o losin ‘pick and mix’ yng Ngŵyl y Gaeaf Caerdydd.
Roedd Rhiannon Brown gyda’i gŵr a dau fab pan dalodd ychydig llai na £50 i The Great British Fudge Company.
Roedd Rhiannon, gweithiwr gofal o Aberpennar, yn cerdded o gwmpas Gŵyl y Gaeaf Caerdydd pan ofynnodd ei phlant am ddau fag o losin gan y stondin.
Dywedodd ei gŵr wrth eu plant i beidio dewis gormod o losin gan eu bod nhw’n costio £2.79 am 100g.
Nid oedd ei gŵr yn disgwyl i’r losin gostio bron i £50.
Dywedodd Rhiannon: “‘Dyn ni’n gwybod ein bod ni am wario arian pan 'dyn ni’n mynd i’r mannau yma. Fe wnaethom ni sicrhau fod y plant ddim yn mynd dros ben llestri. Doedd y bagiau ddim yn agos at hanner llawn ond dydy neb yn gwybod beth mae 100g o losin yn edrych fel."
Pan aeth ei gŵr i dalu, ni chlywodd Rhiannon beth ddywedodd y gweithiwr wrtho ond roedd yn amlwg bod y pris yn afresymol o'i ymateb.
“Dywedodd £47.26 a dywedais i: ‘Beth, ti ddim o ddifri?’
“Roeddwn i wedi fy synnu, roedden ni’n gwybod ei fod am fod yn ddrud, efallai £20-£23. Talodd ac fe wnaethon ni adael.”
Ers rhannu ei phrofiad ar gyfryngau cymdeithasol, dywedodd fod eraill wedi cysylltu â hi yn rhannu profiadau tebyg.
“Does neb yn gallu fforddio talu £47 ar ‘pick and mix’ dyddiau yma. Dw i’n credu y dylai’r cwmni arddangos bagiau o losin i ddangos faint maen nhw’n costio ar gyfartaledd fel bod pobl yn ymwybodol,” dywedodd Rhiannon.
Mae The Great British Fudge Company wedi dweud eu bod nhw’n gweithio ar ffyrdd o wella eu gwasanaeth fel bod problemau tebyg ddim yn codi yn y dyfodol.
Dywedodd: "Gallwn gadarnhau bod y clorian yn cael ei wirio a'i osod heb unrhyw ffordd i'w addasu ar ôl, felly byddai dros 1.6kg o losin mewn dau fag yn dod i gyfanswm o £47."