Pryder y gallai'r argyfwng costau byw effeithio ar Ddydd Gwener Du

Mae pryder y gallai'r argyfwng costau byw effeithio ar faint mae pobl yn wario ar Ddydd Gwener Du.
Gobaith adwerthwyr ym Mhrydain ydy y bydd y prisiau is yn hybu pobl i siopa ac i wario, ond yn sgil yr argyfwng costau byw, mae prynwyr wedi bod yn gwario llai wrth i chwyddiant barhau i gynyddu.
Bydd Cymru a Lloegr hefyd yn chwarae yng Nghwpan y Byd ddydd Gwener, gan olygu y gallai hyn hefyd effeithio ar y nifer o bobl fydd yn siopa.
Yn ôl ffigyrau diweddar, bydd pobl Prydain yn gwario £8.7 biliwn dros gyfnod penwythnos Dydd Gwener Du, sydd yn gynnydd o 0.8% o'r flwyddyn ddiwethaf.
Rhagor yma.