Nyrsys i fynd ar streic am ddau ddiwrnod ym mis Rhagfyr
Mae'r Coleg Nyrsio Brenhinol (RCN) wedi cyhoeddi y bydd nyrsys yn mynd ar streic am ddau ddiwrnod ym mis Rhagfyr.
Bydd nyrsys yn Lloegr, Cymru a Gogledd Iwerddon yn streicio ar 15 a 20 Rhagfyr yn sgil anghydfod am gyflogau.
Mae'r undeb yn gofyn am godiad cyflog o 5% uwchlaw chwyddiant, sydd yn 12% ar hyn o bryd.
Mae gan y coleg dros 300,000 o aelodau, a'r bleidlais sydd newydd ei chynnal yw'r fwyaf yn hanes yr undeb, sydd yn 106 oed.
Bydd y streiciau yn digwydd mewn cyfnodau, gan olygu fod posibilrwydd y gallai rhagor o ddyddiadau gael eu cyhoeddi wedi mis Rhagfyr os nad yw'r llywodraeth yn gwneud tro pedol medd yr undeb.
Dywed y Coleg fod anghyfod yn sgil cyflog yn ogystal â diogelwch cleifion, ac mae "lefelau staffio mor isel fod gofal cleifion yn cael ei beryglu."
Mae cynlluniau i fynd ar streic yn Yr Alban wedi eu gohirio wedi i'r llywodraeth yno benderfynu i barhau i geisio trafod i ddarganfod cyfaddawd.
Dywedodd Ysgrifennydd Cyffredinol a Phrif Weithredwr yr undeb, Pat Cullen, fod "nyrsys wedi cael digon o gael eu cymryd yn ganiataol, digon o gyflogau isel a lefelau staffio anniogel, digon o beidio gallu rhoi'r gofal gorau i gleifion."
Mae'r Coleg Nyrsio Brenhinol wedi dweud na fyddai streic yn effeithio ar wasanaethau gofal brys.
Dywedodd Ysgrifennydd Iechyd y DU, Steve Barclay, fod y cyfnod yma yn "gyfnod heriol i bawb ac mae'r sefyllfa ariannol yn golygu byddai gofynion yr RCN, sef codiad cyflog o 19.2%, yn costio £10 biliwn y flwyddyn, sydd yn anfforddiadwy."