Newyddion S4C

Heddlu Gwent: Corff archwilio i gynnal ymchwiliad i ymddygiad swyddogion

24/11/2022
HEDDLU GWENT

Mae Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu wedi dweud y bydd yn cynnal ymchwiliad i ymddygiad nifer o swyddogion Heddlu Gwent ynghylch honiadau o rannu negeseuon sarhaus.

Dywed y corff fod y penderfynid wedi ei wneud ar ôl derbyn gwybodaeth "yr wythnos hon a’r wythnos ddiwethaf, ar ôl i fanylion negeseuon ar ffôn heddwas sydd bellach wedi marw gael eu cyhoeddi mewn papur newydd cenedlaethol ar 13 Tachwedd.

"Mae'r negeseuon a gyhoeddir o natur hiliol, misogynistig a homoffobig ac roedd rhai'n cyfeirio at lygredd posib."

Mae Heddlu Gwent wedi cyhoeddi fod y llu wedi gwahardd tri swyddog o'u gwaith am y tro, mewn perthynas â honiadau o gamymddwyn. Mewn datganiad dydd Iau, dywedodd y llu: "Yn dilyn honiadau a gyhoeddwyd yn The Sunday Times ar ddydd Sul 13 a 20 Tachwedd rydym wedi gweithio i adnabod y swyddogion dan sylw ac i gymryd y camau priodol. Mae ein gwaith i herio unrhyw gamymddwyn gan swyddogion mewn swydd yn parhau."

Mae Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu wedi gofyn am ragor o wybodaeth gan Heddlu Gwent, a hynny "mewn perthynas â rhan honedig cyn swyddogion yn y broses o rannu negeseuon".

Mae'r Swyddfa hefyd wedi ystyried gwybodaeth gan Heddlu Gwent a Heddlu Wiltshire yn nodi cyfres o gwynion gan deulu’r cyn-Ringyll Heddlu Ricky Jones "yn ymwneud â’r modd yr ymdriniodd yr heddlu â’i ymchwiliad i’w farwolaeth a chyswllt swyddogion â’i berthnasau."

Heddlu Wiltshire

Mae Heddlu Wiltshire yn cynnal ymchwiliad i negeseuon “ffiaidd" gafodd eu darganfod ar ffôn symudol Ricky Jones a laddodd ei hun yn 2020.

Fe gafodd negeseuon hiliol, rhywiaethol a homoffobaidd honedig ar y ffôn eu rhannu gan nifer o swyddogion o'r llu.

Dywedodd Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu y byddai'n ystyried a ddylai honiadau ymddygiad yn ymwneud â'r negeseuon ffôn fod wedi cael eu cyfeirio at eu swyddogion yn gynharach.

'Gofid'

Dywedodd Cyfarwyddwr IOPC Cymru, Catrin Evans: “Rwy’n cydnabod y bydd llawer o bobl yn teimlo bod y negeseuon sy’n cael eu darlledu yn gyhoeddus, sy’n ymddangos yn cael eu rhannu ymhlith swyddogion heddlu, yn peri gofid mawr.

“Ar ôl cyhoeddi’r erthygl bapur newydd yn genedlaethol, fe wnaethom ysgrifennu’n ffurfiol at Brif Gwnstabl Heddlu Gwent yn gofyn iddynt ddarparu gwybodaeth i ni er mwyn sefydlu’r gadwyn o ddigwyddiadau a phenderfyniadau a gymerwyd mewn perthynas â chwynion y teulu, ac unrhyw faterion ymddygiad. Nid oeddem wedi derbyn atgyfeiriad o'r blaen gan yr heddlu ar unrhyw un o'r materion hyn.

“Ar sail ein hasesiad o’r atgyfeiriadau ymddygiad a dderbyniwyd hyd yn hyn, rydym wedi penderfynu bod ymchwiliad annibynnol yn hanfodol i gynnal hyder y cyhoedd. Byddwn yn ymchwilio i ymwneud honedig nifer o swyddogion Heddlu Gwent wrth rannu negeseuon sarhaus.

"Byddwn yn parhau i adolygu cyfranogiad unrhyw swyddogion presennol a chyn swyddogion wrth i ragor o wybodaeth ddod i'r amlwg. Bydd angen i ni lawrlwytho data'n llawn o ffôn Mr Ricky Jones. Byddwn yn gofyn am amynedd tra byddwn yn cynnal ein hymholiadau mor gyflym a thrylwyr â phosibl.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.