FIFA'n dweud bod hawl gan gefnogwyr arddangos symbolau'r enfys yn Qatar

Mae FIFA wedi rhoi sicrwydd i gymdeithasau pêl-droed rhyngwladol fod gan gefnogwyr yng Nghwpan y Byd yn Qatar yr hawl i arddangos symbol yr enfys mewn gemau yn y bencampwriaeth.
Daw hyn wedi i nifer o gefnogwyr brofi anawsterau wrth geisio mynd mewn i gemau yn Qatar gyda nwyddau oedd yn arddangos symbol yr enfys.
Cafodd cyn-gapten Cymru, Laura McAllister, drafferth wrth fynd mewn i stadiwm i wylio Cymru yn erbyn yr UDA nos Lun, oherwydd ei bod yn gwisgo het fwced gyda phatrwm o liwiau’r enfys.
Mae'r enfys yn symbol o gefnogaeth i gymunedau LHDT+.
Mewn adroddiad brynhawn dydd Iau, dywed The Independent fod FIFA bellach wedi sicrhau'r cymdeithasau pêl-droed rhyngwladol na fydd symbol yr enfys bellach yn rheswm i atal cefnogwyr rhag cael mynediad i stadiymau'r bencampwriaeth.
Darllenwch ragor yma.