Cynnal cyngerdd i ddathlu 100 mlynedd o ddysgu cerdd ym Mangor
Fe fydd cyngerdd yn cael ei gynnal nos Sul i ddathlu 100 mlynedd o ddysgu cerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor.
Bwriad y cyngerdd yw dathlu 100 mlynedd o ddysgu cerdd ym mhrifysgol y ddinas.
Bydd yn cynnwys Cyfarwyddwr Cerdd y Brifysgol, Gwyn L Williams, eu harweinydd Chris Atherton, gydag unawdau gan y soprano Sioned Terry, y tenor Robyn Lyn Evans a'r baritôn Jeffrey Williams.
Dywedodd Cyfarwyddwr Cerdd y Brifysgol, Gwyn L Williams: "Mae ein cyngerdd yn nodi can mlynedd o gerddoriaeth yn y Brifysgol, canrif a ddechreuodd gyda phenodiad ET Davies, yn 1921-22, fel y Cyfarwyddwr Cerdd llawn-amser cyntaf."
Bydd cân enwocaf ET Davies, 'Ynys y Plant', yn cael ei pherfformio, yn ogystal â 'Mae Hiraeth yn y Môr' a gafodd ei chyfansoddi gan Dilys Elwyn Edwards a ddysgodd biano yn yr Adran Gerdd ym Mangor.
Bydd Cerddorfa Symffoni Prifysgol Bangor hefyd yn perfformio'r Rondo i Gerddorfa a gafodd ei chyfansoddi gan John Hywel i gael ei pherfformio gan Gerddorfa Genedlaethol Cymru'r BBC.