Newyddion S4C

Carafanio yn Qatar: Cefnogwr Cymru'n fodlon eu byd gyda'u llety

Newyddion S4C 24/11/2022

Carafanio yn Qatar: Cefnogwr Cymru'n fodlon eu byd gyda'u llety

Tu hwnt i'r gwestai moethus a'r llongau pleser, mae yna rai cefnogwyr sy'n gwersylla ar gyrion Doha yn ystod Cwpan y Byd. 

Adroddiadau negyddol iawn ar y cyfan sydd wedi dod o gyfeiriad y gwersylloedd sydd wedi eu codi er mwyn cynnig llety i’r degau o filoedd o gefnogwyr sydd wedi teithio i Doha.

Yn ogystal â’r gwestai a’r fflatiau, heb sôn am y llongau pleser moethus, mae nifer yn aros mewn pebyll, neu mewn cytiau metel.

Tra bod rhai yn cyfaddef nad yw’r safon gyda’r gorau, mae eraill yn derbyn fod y safon yn dderbyniol iawn.

Mae Gwyn Jones a Gwilym Lovgreen yn aros yn Ninas y Carafanau.

"Mae o'n syml, mae gennym ni ddau wely, ma' hyd yn oed teledu yma, ma' 'na ensuite," meddai Gwilym. 

Am y tro cyntaf erioed yng nghystadleuaeth Cwpan y Byd, mae pob stadiwm a phob gêm fwy neu lai o fewn un ddinas felly mae yna brinder llety. 

Dywedodd Gwilym: "Wrth 'sbïo ar prisiau'r gwestai yma, ma' rhai ohonyn nhw'n £1,000 y noson. 'Da ni 'di talu o gwmpas £130 yr un y noson."

Ychwanegodd Gwyn: "Yn amlwg, ma siwr bod 'na lefydd neisiach i aros yn Doha, ond am y pris 'da ni 'di dalu, dwi'n hollol hapus efo'r penderfyniad."

Mae ardal hefyd i gefnogwyr i ymlacio er mwyn bwyta a bod yng nghwmni cefnogwyr o bob gwlad i fwynhau Cwpan y Byd 2022. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.