Newyddion S4C

Chwe newid i Gymru ar gyfer y gêm yn erbyn Awstralia

24/11/2022
pivac cymru

Mae Wayne Pivac wedi cyhoeddi y bydd yna chwe newid i Gymru ar gyfer y gêm yn erbyn Awstralia ddydd Sadwrn yng ngêm olaf Cyfres yr Hydref. 

Fe gollodd Cymru o bwynt yn erbyn Georgia yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn diwethaf yn Stadiwm y Principality yng Nghaerdydd. 

Bydd canolwr y Gweilch, Joe Hawkins, yn cychwyn i Gymru am y tro cyntaf wrth gymryd lle Owen Watkin sydd wedi anafu, gydag Alun Wyn Jones yn dychwelyd i'r cae yn lle Ben Carter.

Fe fydd Leigh Halfpenny yn dychwelyd i'r cae am y tro cyntaf dros Gymru ers mis Gorffennaf 2021, a hynny yn lle Louis Rees-Zammit, gyda Rio Dyer yn cael ei ddewis o flaen Josh Adams.

Bydd Alun Wyn Jones yn chwarae yn ei 167fed gêm ryngwladol, ac yn cychwyn ei gêm gyntaf i Gymru ers y golled yn erbyn Yr Eidal ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad ym mis Mawrth y llynedd.

Mae'r maswr Gareth Anscombe yn cael ei ffafrio o flaen Rhys Priestland a bydd Taulupe Faletau yn chwarae yn ei 100fed gêm ryngwladol gan gychwyn yn lle Josh Macleod. 

Bydd Cymru yn gobeithio am ddiwedd cadarnhaol yn dilyn un buddugoliaeth yn unig hyd yma yng Nghyfres yr Hydref.  

Dim ond tair gêm ryngwladol allan o 11 y mae tîm Wayne Pivac wedi eu hennill yn 2022 hyd yma, gydag Awstralia wedi ennill pedair mewn 13. 

Carfan Cymru

15. Leigh Halfpenny, 14. Alex Cuthbert, 13. George North, 12. Joe Hawkins, 11. Rio Dyer, 10. Gareth Anscombe, 9. Tomos Williams, 1. Gareth Thomas, 2. Ken Owens, 3. Dillon Lewis, 4. Adam Beard, 5. Alun Wyn Jones, 6. Jac Morgan, 7. Justin Tipuric, 8. Taulupe Faletau.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.