
'Rhwystrau sefydliadol yn parhau' wedi marwolaeth Logan Mwangi
Mae adroddiad i farwolaeth Logan Mwangi wedi dod i'r casgliad bod "rhwystrau sefydliadol" yn parhau i atal asiantaethau rhag rhannu gwybodaeth, cyd-drafod a gwneud penderfyniadau mewn achosion amddiffyn plant.
Fe gafodd dau oedolyn a bachgen yn ei arddegau eu dedfrydu i garchar am oes am lofruddio'r bachgen pump oed, yn Sarn, Pen-y-bont ar Ogwr ym mis Gorffennaf y llynedd.
Cafodd yr adroddiad adolygu ymarfer plant gan Fwrdd Diogelu Plant Cwm Taf Morgannwg yn edrych ar ymateb yr awdurdodau yn dilyn llofruddiaeth Logan Mwangi ei gyhoeddi ddydd Iau.
Dywed yr adroddiad fod adran Gwasanaethau i Blant wedi dangos "dull anghyson o sicrhau ansawdd asesiadau a chynllunio ar draws sawl maes rheoli achosion.
"Prin oedd y dystiolaeth fod adroddiadau cynadleddau amddiffyn plant a chynlluniau gofal a chymorth yn cael eu hadolygu'n gyson gan oruchwylwyr."

Roedd diwylliant yn y Bwrdd Iechyd hefyd lle'r oedd staff iechyd yn "amharod i herio'r asesiadau clinigol a'r penderfyniadau a wneir gan weithwyr proffesiynol mwy cymwys.
"Yn arwyddocaol, doedd dim defnydd o bolisïau ‘Chwythu’r Chwiban’ neu uwchgyfeirio’r Bwrdd Iechyd a fyddai wedi bod ar gael yn lle her ‘wyneb yn wyneb’.
Ychwanegodd yr adroddiad: "Ar draws yr asiantaethau a fu’n ymwneud â Phlentyn T a’i deulu, mae thema glir o amgylcheddau gwaith dan bwysau sydd ddim yn galluogi nac yn creu amodau sefydliadol sy’n cefnogi gwaith mor gymhleth."
Plentyn T
Mae Logan Mwangi yn cael ei gyfeirio ato fel Plentyn T yn yr adroddiad. Bwriad yr adolygiad oedd darganfod sut y mae modd dysgu a chefnogi ymarfreion diogelu plant yn y dyfodol.
Daeth yr adroddiad i'r casgliad fod y systemau rhannu gwybodaeth "ddim yn cefnogi nac yn galluogi rhannu gwybodaeth amlasiantaethol" a’u bod yn "rhwystr i asiantaethau fod yn systemig wrth wneud penderfyniadau."
Llofruddiaeth
Cafodd mam Logan Mwangi, Angharad Williamson, ddedfryd oes gydag isafswm o 28 mlynedd cyn y bydd yn cael gwneud cais am barôl.
Cafodd ei lys-dad, John Cole, ddedfryd o oes o garchar gydag isafswm o 29 mlynedd cyn y bydd yn cael gwneud cais am barôl. Mae'n cael ei ddisgrifio fel Oedolyn A yn yr adroddiad.
Cafodd Craig Mulligan, 14 oed, ddedfryd o 15 mlynedd mewn canolfan i droseddwyr ifanc, ac mae'n cael ei ddisgrifio fel Plentyn Y gan awduron yr adroddiad.
Roedd enw Logan Mwangi wedi ei enwi ar Gofrestr Amddiffyn Plant yr Awdurdod Leol rhwng 4 Mawrth 2021 ac 20 Mai 2021 o dan y categorïau 'cam-drin corfforol' a 'cham-drin emosiynol'.
Cyfyngiadau Covid-19
Mae'r adroddiad yn nodi fod cyfyngiadau Covid-19 wedi bod yn rwystr i'r gwasanaethau, gan gynnwys "diffyg hyder gweithwyr proffesiynol wrth herio defnydd posibl y teulu o bryderon Covid 19 a symptomau Covid 19 fel rhwystr i ymgysylltu â gwasanaethau.
"Mae hyn yn amlygu sut roedd Covid 19 yn rhwystr pellach i nodi cydymffurfiaeth gelwyddog bosibl, h.y. y teulu yn ymddangos fel pe baen nhw'n cydweithredu â gweithwyr proffesiynol er mwyn tawelu unrhyw bryderon a rhoi’r gorau i ymgysylltu proffesiynol."
Mae hefyd yn nodi na wnaeth y Gwasanaethau i Blant hysbysu tad Logan am eu cysylltiad gyda'i fab, gan nad oedden nhw'n deall "eu dyletswydd i hysbysu unrhyw berson sydd â chyfrifoldeb rhiant am blentyn am bryderon amddiffyn plant."
Mae'r adroddiad hefyd yn cwestiynu pa mor gyson oedd goruchwylwyr yn adolygu adroddiadau cynadleddau amddiffyn plant a chynlluniau gofal a chymorth, ac na wnaeth cyd-destun hil ac ethnigrwydd Logan Mwangi gael ei archwilio yn llawn wrth ystyried safbwyntiau hiliol Oedolyn A a Phlentyn Y.
Er hyn, fe wnaeth yr adroddiad gydnabod fod yr heddlu wedi ymateb i bob cais am gymorth gan asiantaethau a'r cyhoedd "mewn modd sensitif ac amserol."
Roedd y ffaith hefyd fod ymarferwyr wedi dychwelyd at y teulu i ofyn rhagor o gwestiynau i geisio canfod y gwir yn agwedd gadarnhaol yn ôl yr adroddiad.
'Dyletswydd i adrodd'
Fodd bynnag, mae'r adroddiad yn nodi y dylai Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg sicrhau fod gan ymarferwyr sy'n gweithio'n uniongyrchol gyda phlant a phobl ifainc" ddealltwriaeth o'u rolau pan y maent yn nodi pryderon diogelu a bod ganddynt ddyletswydd i'w hadrodd."
Yn sgil hyn, dylid "adrodd ar gydymffurfiaeth yn flynyddol i Fwrdd Diogelu Cwm Taf Morgannwg."
Mae'r adroddiad hefyd yn argymell y dylai'r Bwrdd Diogelu "adolygu ac ail-lansio" yr hyfforddiant aml-asiantaeth er mwyn nodi a chadw cofnod o anafiadau sydd ddim yn ddamweiniol ac ymddygiad gorfodaethol.
Dywed yr adroddiad yn ogystal ei bod yn hollbwysig fod yn gwbl glir o hawliau'r sawl sydd "â chyfrifoldeb rhiant am blentyn i gael gwybod am bryder diogelu."
Dylid hefyd ystyried "cynlluniau wrth gefn yn y dyfodol" yn sgil y rhwystrau a gafodd eu codi yn sgil cyfyngiadau Covid-19.
Mae'r adroddiad hefyd yna argymell argymhellion cenedlaethol, gan gynnwys bod Llywodraeth Cymru yn ystyried "comisiynu adolygiad Cymru gyfan o ddulliau o gynnal cynadleddau amddiffyn plant i nodi dulliau cadeirio/hwyluso effeithiol."
Mae'r Llywodraeth hefyd yn ystyried comisiynu "ymgyrch ymwybyddiaeth genedlaethol flynyddol" er mwyn codi ymwybyddiaeth o sut y gall rhywun adrodd am bryderon diogelu.
Yn dilyn cyhoeddi'r adroddiad mae'r Ceidwadwyr Cymreig a'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi galw am adolygiad cenedlaethol o wasanaethau amddiffyn plant trwy Gymru gyfan.
'Ymddiheurwn'
Mae Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg wedi dweud na fyddan nhw "byth yn anghofio'r hyn ddigwyddodd i Logan" ac y byddan nhw'n sicrhau eu bod yn cyflwyno "gwelliannau i'w gwasanaethau, systemau a phrosesau".
"Mae marwolaeth unrhyw blentyn yn gwbl drasig, ac mae'r ffaith i Logan fod wedi colli ei fywyd yn nwylo'r sawl sydd agosaf ato yn effeithio ar ei deulu, ffrindiau a'i gymuned am byth," meddai llefarydd ar ran y Bwrdd.
"Yn gyntaf, ymddiheurwn i dad Logan. Ymddiheurwn i'w deulu, ac i bawb oedd yn ei adnabod, a'i garu. Ymddiheurwn am y ffaeleddau yn ein systemau a fedrai fod wedi cynnig cyfleoedd cynharach i adnabod camdriniaeth ac i warchod Logan.
"Rydym yn derbyn yn llawn yr argymhellion a'r gweithredoedd yn yr adolygiad. Mae nifer o weithredoedd eisoes yn cael eu datblygu i wella arfer diogelu o fewn ein Bwrdd Iechyd, a gyda'n partneriaid."