Newyddion S4C

Caerdydd Canolog yn parhau fel yr orsaf reilffordd brysuraf yng Nghymru

24/11/2022
S4C

Mae Caerdydd Canolog yn parhau fel yr orsaf reilffordd brysuraf yng Nghymru, yn ôl yr ystadegau diweddaraf.

Er hyn, roedd nifer y teithwyr a oedd yn teithio i mewn ac allan o'r orsaf bum miliwn yn llai na'r ffigwr ddwy flynedd yn ôl. 

Rhwng mis Ebrill 2021 a Mawrth 2022, roedd cyfanswm o 7.5 miliwn o deithwyr yn teithio i mewn ac allan o'r orsaf, sydd dwy filiwn yn fwy na'r llynedd.

Gorsaf reilffordd Casnewydd oedd yn ail (1.8 miliwn) ac yna Abertawe yn drydydd (1.5 miliwn). 

Yr orsaf reilffordd a ddefnyddiwyd leiaf yng Nghymru oedd Dinas-y-Bwlch ym Mhowys gyda chyfanswm o 76 o deithwyr yn teithio i mewn ac allan o'r orsaf yn ystod y flwyddyn. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.