Cyhoeddi'r gofodwr Prydeinig cyntaf gydag anabledd corfforol
Mae'r gofodwr Prydeinig cyntaf sydd ag anabledd corfforol wedi ei gyhoeddi.
Mae John McFall yn gyn-athletwr Paralympaidd ac fe enillodd fedal efydd yng Ngemau Paralympaidd 2008 yn Beijing.
Mae'n un o'r gofodwyr cyntaf i gael eu cyhoeddi gan yr Asiantaeth Ofod Ewropeaidd ers 2009.
Yn dilyn damwain beic modur a olygodd bod yn rhaid torri ei goes i ffwrdd yn 19 oed, fe ddysgodd John i redeg eto.
Mae'n gyn-fyfyriwr Prifysgolion Abertawe, Prifysgol Cymru a Phrifysgol Caerdydd.
Yn ystod ei astudiaethau meddygol, fe weithiodd fel cynorthwyydd nyrsio yn Hosbis Marie Curie yng Nghaerdydd rhwng 2009 a 2011.
"Yn gynnar yn 2021, pan ddaeth yr hysbyseb am ofodwr gydag anabledd corfforol, fe ddarllenais yr hyn oedd yn ofynnol a meddyliais 'Waw, mae hwn yn gyfle mor fawr a diddorol'," meddai.
"Ac roeddwn yn meddwl y byddem yn ymgeisydd da iawn i helpu ESA i ateb y cwestiwn yr oedden nhw'n ei ofyn - a fedrwn ni gael rhywun gydag anabledd corfforol i'r gofod?"