Newyddion S4C

70,000 o ddarlithwyr mewn prifysgolion yn cynnal streic

24/11/2022

70,000 o ddarlithwyr mewn prifysgolion yn cynnal streic

Bydd tua 70,000 o ddarlithwyr mewn prifysgolion ar draws y Deyrnas Unedig yn mynd ar streic ddydd Iau.

Bydd aelodau Undeb y Prifysgolion a Cholegau (UCU) yn cynnal y gweithredu diwydiannol ddydd Iau a dydd Gwener ac ar ddydd Mercher, 30 Tachwedd.

Bydd pob un o brifysgolion Cymru - Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Bangor, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol De Cymru, Prifysgol Fetropolitan Caerdydd, Prifysgol Cymru, Y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol Glyndŵr Wrecsam yn cael eu heffeithio.

Mae'r streiciau yn cael eu cynnal dros gyflogau ac amodau gwaith, gyda gweithredu'n brin o streic yn cael ei gynnal "hyd nes y bo rhybudd pellach".

Mae gweithredu'n brin o streic yn golygu bod staff yn gweithio i'w cytundebau ac yn gwrthod cymryd rhan mewn gweithgareddau gwirfoddol neu lenwi bylchau os oes staff eraill yn absennol.

Mae staff ym Mhrifysgolion Aberystwyth, Bangor, Caerdydd a'r Drindod Dewi Sant hefyd yn streicio dros gynllun pensiynau USS.

Mae Prifysgolion y DU, y corff sy'n cynrychioli prifysgolion ar draws y DU, wedi dweud bod cynllun pensiynau'r USS "yn parhau i fod yn un o'r cynlluniau pensiwn preifat mwyaf deniadol yn y wlad."

Maen nhw'n ychwanegu eu bod yn "drist unwaith eto i fod yn wynebu gweithredu diwydiannol a fedrai amharu ar fyfyrwyr ac aelodau eraill o staff."

Mae Llywydd Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr (NUS) Cymru, Orla Tarn, wedi dweud fod "myfyrwyr yn sefyll mewn undod gyda'r 70,000 o staff prifysgolion ar draws y DU fydd yn streicio.

"Dyma'r bumed flwyddyn yn olynol lle mae toriadau i addysg a lleihau hawliau gweithwyr ar draws y DU wedi arwain at weithredu diwydiannol ar ein campysau."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.