Newyddion S4C

Rygbi Cymru yn cael ei ddal yn ôl gan 'blwyfoldeb chwerthinllyd' medd Sam Warburton

Nation.Cymru 23/11/2022
Sam Warburton

Mae rygbi yng Nghymru yn cael ei ddal yn ôl gan 'blwyfoldeb chwerthinllyd', yn ôl cyn gapten Cymru, Sam Warburton. 

Mewn erthygl ar gyfer The Times, dywedodd Warburton fod strwythur rygbi yng Nghymru yn "sownd yn Oes y Cerrrig."

Daw hyn wedi i dîm Wayne Pivac golli yn erbyn Georgia ddydd Sadwrn yn Stadiwm y Principality, a dywedodd y cyn gapten fod y sefyllfa a wnaeth arwain at y golled "wedi bod yn cynyddu am beth amser ar y cae yn ogystal ag oddi arno.

"Dwi ddim yn meddwl fod gan Undeb Rygbi Cymru ffydd yn y rhanbarthau gyda'u harian ond hefyd, dydy'r rhanbarthau ddim eisiau cael eu perchnogi gan yr undeb gan bod eu llywodraethu nhw mor hen ffasiwn," ychwanegodd.

Bydd Cymru yn herio Awstralia yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn.

Darllenwch fwy yma

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.