Y cyn-ddyfarnwr Nigel Owens yn derbyn llythyr homoffobig ‘ffiaidd’

Mae’r cyn-ddyfarnwr rygbi rhyngwladol Nigel Owens wedi rhannu’r gamdriniaeth homoffobig y gwnaeth ei dderbyn mewn llythyr llawn “casineb” ar gyfryngau cymdeithasol.
Fe wnaeth y Cymro bostio llun o’r llythyr sydd wedi’i arwyddo gan berson sy'n honni iddo fod yn weithiwr dur o Bort Talbot yn dweud “heblaw ein bod ni’n dechrau codi cywilydd ar y math yma o bobl, ni fydd unrhyw beth yn newid".
Dywedodd Owens ei fod wedi derbyn y llythyr “cwpl o wythnosau yn ôl” a’i fod wedi “meddwl yn ddwys” os oedd am rannu’r llythyr.
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn ymchwilio i’r mater. Yn ôl y llu, mae “ymholiadau yn mynd yn eu blaen".
Yn ogystal, mae’r llythyr yn sôn am gyn-chwaraewr rygbi Cymru, Gareth Thomas, sydd hefyd yn ddyn hoyw.
Fe wnaeth Thomas ymateb i’r post gan ddweud: “Mae e’n ysgrifennydd cyson, mae e’n ysgrifennu’r math yna o lythyron i bawb, da iawn ti am godi cywilydd arno.”
Daeth Owens allan yn hoyw yn 2007 ac yn 2020, fe oedd y person cyntaf i ddyfarnu 100 gêm brawf ryngwladol.
Mae Nigel Owens nawr yn ffermio ac yn gweithio fel sylwebydd teledu.
Daeth llawer o gefnogaeth i Owens ar gyfryngau cymdeithasol ar ôl iddo rannu’r llythyr.
Dywedodd un defnyddiwr fod y llythyr yn “druenus ac yn afresymol” tra bod eraill yn mynegi eu cefnogaeth tuag at yr arwr rygbi.
Fe wnaeth cyfrif swyddogol Twitter cwmni TATA Steel, sydd â gweithfeydd dur ym Mhort Talbot, ymateb gan ddweud: “Rydym ni gyda thi 100% Nigel ac rydym wedi ein harswydo i weld bod y llythyr wedi’i arwyddo gan un o’n teulu dur ni.
“Does dim lle am gasineb yn y diwydiant dur, mewn clwb rygbi neu yng nghymdeithas”.