Newyddion S4C

Chwech wedi'u lladd mewn archfarchnad yn America

The Guardian 23/11/2022
Walmart

Mae chwech o bobl wedi cael eu lladd yn dilyn ymosodiad mewn archfarchnad yn nhalaith Virginia yn yr UDA. 

Cafodd heddlu yn ninas Chesapeake eu galw i'r siop Walmart ychydig wedi 22:00 amser lleol nos Fawrth, wedi adroddiadau fod unigolion wedi cael eu saethu.

Yn ôl adroddiadau, rheolwr yr archfarchnad oedd yn gyfrifol am yr ymosodiad. Dywed yr heddlu bod yr ymosodwr hefyd wedi marw. 

Daw'r digwyddiad tridiau wedi ymosodiad gwn arall ar glwb nos LHDT+ yn nhalaith Colorado, lle cafodd pump o bobl eu lladd a 17 eu hanafu.  

Darllenwch fwy yma

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.