Rhybudd coch am lifogydd i rannau o orllewin Cymru
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyhoeddi pum rhybudd coch am lifogydd i ardaloedd o orllewin Cymru ddydd Iau.
Mae rhybudd coch mewn grym yn ardal Afon Leri yn y Borth, ar yr arfordir yn Dale, ar arfordir Parc Bae Caerfyrddin, Cydweli ac ar lan y môr yn Aberystwyth.
Yn ogystal, mae rhybudd ‘llifogydd - byddwch yn barod’ yn ardal arfordir gorllewin Môn, Teifi Isaf, Bae Abertawe ac arfordir Gŵyr.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn rhybuddio bod disgwyl llifogydd ar dir a ffyrdd isel yn yr ardaloedd yma.
Dywed CNC bod angen i bobl gymryd gofal.
Rhybudd melyn am wynt a glaw
Mae rhybudd melyn am wynt a glaw i Gymru gyfan ddydd Iau eisios mewn lle.
Mae'r rhybudd gan y Swyddfa Dywydd mewn grym rhwng 09:00 a 19:00 i holl siroedd y wlad.
Fe allai'r tywydd garw achosi problemau ar y ffyrdd, gydag oedi yn bosib ar y cledrau, i awyrennau a llongau.
Mae'n bosib y bydd y tywydd hefyd yn arwain at amodau gyrru gwael.
Fe allai rhai ardaloedd weld llifogydd hefyd - mae gan Gyfoeth Naturiol Cymru naw rhybudd oren am lifogydd mewn grym ac un rhybudd coch yn ardal arfordirol Dale yn Sir Benfro.
Fe allai gwyntoedd o 60-70 m.y.a. hyrddio ar hyd y glannau yn Sir Benfro, Gwynedd ac Ynys Môn.
Mae rhybudd pellach melyn pellach am wyntoedd cryfion wedi ei gyhoeddi ar gyfer 11 o siroedd Cymru rhwng 19:00 a 23:59 nos Iau.
Y siroedd sydd wedi eu heffeithio gan yr ail rybudd yw Abertawe, Bro Morgannwg, Castell-nedd Port Talbot, Ceredigion, Conwy, Gwynedd, Pen-y-bont ar Ogwr, Powys, Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin, Ynys Môn.