Cristiano Ronaldo i adael Manchester United 'ar unwaith'

22/11/2022
Ronaldo

Bydd Cristiano Ronaldo yn gadael tîm pêl-droed Manchester United "ar unwaith".

Mewn datganiad brynhawn dydd Mawrth, dywedodd y clwb eu bod yn "diolch iddo am ei gyfraniad sylweddol dros ddau gyfnod yn Old Trafford, gan sgorio 145 gôl mewn 346 o ymddangosiadau, ac rydym yn dymuno'r gorau iddo a'i deulu ar gyfer y dyfodol".

Daw hyn wedi i Ronaldo ddweud mewn cyfweliad gyda'r cyflwynydd Piers Morgan ar gyfer TalkTV yr wythnos diwethaf ei fod yn teimlo iddo gael ei "fradychu" gan ei glwb, a'i fod yn cael ei orfodi i adael Old Trafford.

Dywedodd hefyd yn ystod y cyfweliad nad oedd yn parchu'r rheolwr Erik ten Hag, gan ddweud "nid oes gen i ddim parch tuag ato, gan nad yw'n dangos parch tuag ata i."

Llun: Manchester United 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.