Newyddion S4C

Gobaith am 'filoedd o swyddi' i Gaergybi petai'n borthladd rhydd

Newyddion S4C 22/11/2022

Gobaith am 'filoedd o swyddi' i Gaergybi petai'n borthladd rhydd

Fe allai hyd at 13,000 o swyddi cael eu creu ar Ynys Môn petai Caergybi yn borthladd rhydd, yn ôl perchnogion yn safle. 

Mae disgwyl i bum safle wneud cais i fod yn borthladdoedd rhydd cyntaf Cymru cyn y terfyn amser nos Iau. 

Dywedodd Stena Line, sydd yn berchen ar borthladd Caergybi, y gallai ennill statws porthladd rhydd fod yn hwb economaidd i'r ardal leol trwy leihau'r gwaith sydd angen ei wneud wrth gludo nwyddau. 

Yn ôl y cwmni, mae busnesau byd-eang fel Rolls Royce wedi dangos diddordeb mewn codi ffatrïoedd yn y dref petai'n derbyn statws porthladd rhydd. 

Ond beth yn union yw porthladd rhydd? 

Mae'r statws yn galluogi cwmnïau i fewnforio ac allforio nwyddau tu hwnt i'r rheolau tollau a threthi arferol. Fel arfer, mae rhaid i fusnesau dalu'r llywodraeth er mwyn cludo nwyddau trwy borthladdoedd, ond nid dyma'r achos o fewn porthladd rhydd.  

Fe all cwmnïau fewnforio eu deunyddiau craidd yn ddi-dariff a dim ond angen talu tollau os ydynt yn allforio nwyddau gorffenedig i'r DU. 

"Mae mewnforio nwyddau heb dalu dariffau yn beth positif o ran beth mae busnesau yn trio gwneud," meddai Dr Robert Bowen, darlithydd busnes ym Mhrifysgol Caerdydd. 

"Ond os mae'r gweithgynhyrchu sy'n cael eu wneud a'r deunydd sy'n cael ei creu trwy'r broses yna wedyn yn symund i'r Deyrnas Unedig, wedyn dyna pryd bydd rhaid i fusnesau talu tariffau." 

"Ond os mae busnesau yna yna yn gwerthu y nwyddau yna i wledydd tramor, dydy nhw ddim yn talu tariffau o gwbl." 

Dywed Stena Line y gall y statws yma ddod a buddion enfawr i Gaergybi. 

"Gallwn ni ddenu busnesau na fyddai fel arfer yn dod i Gaergybi," meddai Ian Hampton, prif weithredwr Stena Line.

"Fe allen nhw fanteisio ar yr hyn mae porthladd rhydd yn ei gynnig ond hefyd creu miloedd o swyddi newydd a thyfiant economaidd i ogledd Cymru i gyd a'r DU.

"'Dan ni'n sôn am botensial o dwf gwerth biliwn o bunnau a hyd at 13,000 o swyddi yn ôl ein modelu economaidd."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.