Canolfan fudwyr Manston 'yn wag' ar ôl cyfnod o fod yn orlawn

Mae'r ganolfan brosesu mudwyr yn Manston, Caint, bellach yn "wag" wedi i'r safle yng Nghaint brofi gorlenwi difrifol ar ddechrau'r mis.
Cafodd y ganolfan ei hagor ym mis Chwefror eleni fel lle i geiswyr lloches aros yn ystod eu 24 awr gyntaf yn y DU.
Ar ddechrau mis Tachwedd, cafodd 4,000 o bobl eu gosod yn y canolfan, sydd ond wedi'i dylunio i ddal 1,600 o bobl. Roedd yna hefyd adroddiadau o fudwyr yn aros dros 30 awr cyn cael eu symud o'r ganolfan.
Cafodd y Swyddfa Gartref ei beirniadu'n chwyrn dros y sefyllfa yn sgil adroddiadau o afiechydon yn lledaenu o fewn y ganolfan a mudwyr yn cysgu ar y llawr.
Ond bellach mae yna adroddiadau bod y ganolfan yn hollol wag, wedi wythnosau o broblemau yno.
Darllenwch fwy yma.