Archfarchnad arall i gyfyngu ar werthu wyau

Tesco yw’r archfarchnad ddiweddaraf i ddogni wyau i gwsmeriaid oherwydd problemau yn y gadwyn gyflenwi.
Dim ond uchafswm o dri bocs bydd siopwyr yn gallu eu prynu, a bydd hyn yn cael ei fonitro pan fyddant yn cyrraedd y ddesg dalu.
Ar hyn o bryd mae ffermwyr yn wynebu dwy elfen sy'n effeithio ar gyflenwadau wyau, sef costau cynhyrchu cynyddol ac achosion o ffliw adar.
Mae penderfyniad Tesco yn dilyn penderfyniad Aldi a Lidl, a ddechreuodd ddogni wyau i gwsmeriaid yr wythnos ddiwethaf.
Rhagor yma.