Laura McAllister: 'Pwysig sefyll dros ein hegwyddorion' yng Nghwpan y Byd

Laura McAllister: 'Pwysig sefyll dros ein hegwyddorion' yng Nghwpan y Byd
Mae'r Athro Laura McAllister wedi dweud ei fod yn "bwysig i sefyll lan dros ein hegwyddorion" wedi i swyddogion mewn stadiwm yn Qatar ofyn iddi dynnu ei het enfys cyn gêm Cymru yn erbyn yr UDA.
Yn ôl Ms McAllister, sydd yn gyn-gapten ar dîm menywod Cymru, cafodd ei hatal rhag mynd mewn i Stadiwm Ahmad Bin Ali am gyfnod nos Lun am wisgo'r het, sydd yn symbol o gefnogaeth i gymunedau LHDT+.
Mae beirniadaeth chwyrn eisoes wedi bod at agweddau Qatar tuag at y gymuned LHDT+, gyda nifer yn cwestiynu os bydd cefnogwyr yn rhydd i ddefnyddio eitemau gyda symbol yr enfys arnyn nhw.
Dywedodd FIFA, trefnwyr y gystadleuaeth, fod croeso i gefnogwyr LHDT+ yn Qatar a bod modd arddangos yr enfys wrth ymweld â'r wlad.
Ond, yn ôl Ms McAllister, dywedodd staff yn y stadiwm fod ei het enfys yn "symbol oedd wedi'i wahardd."
"Dyma nhw'n dweud: 'Wel chi ddim yn gallu mynd i mewn felly rhowch yr het yn y bin neu fynd yn ôl i'r swyddfa lost property," meddai.
'Sefyll ein tir'
Er gwaethaf y trafferthion yn y stadiwm, dywedodd Ms McAllister ei fod yn bwysig i "sefyll ein tir" dros hawliau LHDT+.
"Nes i benderfynu cadw yr het oherwydd mae'n bwysig i ni fod yma yn Qatar ac yn sefyll lan dros ein hegwyddorion.
"Da ni'n gwybod bod yr holl dwrnamaint yn compromised gyda'r sefyllfa hawlia dynol, hawliau menywod a hawliau LHDT.
"Felly i fi mae'n bwysig sefyll lan a dweud da ni ddim yn derbyn y sefyllfa."
Mae fideo o'r digwyddiad wedi hollti barn ac ennyn ymateb gan filoedd o bobl ar Twitter.
Mae cefnogwyr sydd â nwyddau gyda symbol yr enfys arnynt wedi profi trafferthion wrth fynd i mewn i'r stadiwm i wylio Cymru.
— Newyddion S4C (@NewyddionS4C) November 21, 2022
Dyma brofiad @LauraMcAllister. pic.twitter.com/fsvCKqVqCL
Daw profiad Ms McAllister nos Lun yn sgil nifer o gwynion tebyg am drafferthion gyda'r symbol enfys yn Qatar.
Yn gynharach ddydd Llun, dywedodd grwp cefnogwyr LHDT+ Cymru, y Wal Enfys, ar gyfryngau cymdeithasol fod yr awdurdodau wedi cadw hetiau eu haelodau.
Mae Cymdeithas Pêl-droed Cymru bellach wedi cyhoeddi y bydd yn cynnal trafodaethau gyda FIFA, gan ddweud ei bod yn "siomedig iawn" am y digwyddiadau.